Mae Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, wedi cael ei feirniadu gan aelod seneddol yn Lerpwl am ysgrifennu yn The Sun.
Mae’r papur newydd yn cael ei gasáu gan drwch o boblogaeth Lerpwl am feio cefnogwyr pêl-droed Lerpwl am drychineb stadiwm Hillsborough ar Ebrill 15, 1989, pan gafodd 96 o gefnogwyr pêl-droed eu lladd yn ystod gêm gyn-derfynol Cwpan FA Lloegr yn erbyn Nottingham Forest.
Roedd penawdau’r papurau’n sôn am feddwdod honedig y cefnogwyr, ac yn awgrymu eu bod nhw’n lladron ac wedi ymosod ar yr heddlu.
Fe gymerodd rai degawdau cyn bod cwestau o’r newydd yn datgan yn glir nad oedd y cefnogwyr ar fai am y trychineb.
Fyth ers hynny, fe fu ymgyrchoedd yn Lerpwl yn annog pobol i gadw draw o’r papur newydd.
Wrth ysgrifennu yn The Sun, roedd Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, wedi lladd ar “anhrefn” y gadwyn gyflenwi a’r prinder gyrwyr lorïau, gan gyhuddo’r prif weinidog o anwybyddu sawl rhybudd gan y diwydiant.
“Cafodd Boris Johnson ei rybuddio am yr argyfwng hwn, a wnaeth e ddim byd amdano fe,” meddai.
“Mae Prydain yn haeddu gwell na’r anallu a’r diffyg arweiniad hwn.”
Datganiad
“Heddiw, fe fydd teuluoedd a goroeswyr Hillsborough, pobol fy ninas, cefnogwyr ein clwb gwych a’r miliynau o bobol eraill a gafodd eu pardduo gan y rhacsyn yn teimlo eu bod nhw wedi’u bradychu’n fawr gan arweinydd y blaid y ces i fy ethol i’w chynrychioli,” meddai Ian Byrne, Aelod Seneddol Llafur etholaeth Liverpool West Derby.
“Dw i wedi rhoi fy marn ar gofnod, pe bai unrhyw arweinydd o’r un o gydrannau ein mudiad Llafur ac Undebau Llafur yn ysgrifenu yn y rhacsyn, nad ydyn nhw’n gymwys i fod yn y swydd honno.
“Dw i’n sefyll yn llwyr y tu ôl i’r safbwynt hwnnw heddiw.”