Mae Carles Puigdemont, cyn-arlywydd Catalwnia, wedi glanio yn Alghero yn Sardegna cyn dechrau achos llys yfory (dydd Llun, Hydref 4).
Mae Sbaen yn awyddus i’w estraddodi fel bod modd iddo wynebu cyhuddiadau o annog gwrthryfel tros ymgyrch annibyniaeth Catalwnia.
Fe fu Puigdemont yn byw’n alltud ers refferendwm annibyniaeth aflwyddiannus 2017 – pleidlais sy’n cael ei hystyried yn “anghyfansoddiadol” gan Lywodraeth Sbaen.
Mae disgwyl i Puigdemont gyfarfod â’i gyfreithwyr heddiw (dydd Sul, Hydref 3) cyn i’r achos ddechrau, wrth i’r llys geisio penderfynu a ddylid ei estraddodi.
Cafodd Puigdemont ei arestio yn Sardegna yr wythnos ddiwethaf, a’i ryddhau’r diwrnod canlynol.
Ddydd Gwener (Hydref 1), fe wnaeth e ofyn i Lys Cyffredinol yr Undeb Ewropeaidd adfer ei imiwnedd gwleidyddol fel aelod o’r Undeb Ewropeaidd.
Mae pryderon y gallai’r helynt effeithio’r trafodaethau rhwng Sbaen a Chatalwnia mewn ymgais i geisio tawelu’r rhai sydd o blaid annibyniaeth.