Mae Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, yn rhybuddio y gallai protestwyr sy’n atal teithwyr ar y ffyrdd gael dirwy a charchar am hyd at chwe mis.

Daw ei sylwadau yn ystod cynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion, wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig geisio mynd i’r afael ag ymgyrchwyr newid hinsawdd sydd wedi bod yn atal cerbydau ar briffyrdd.

Mae’n fwriad hefyd i roi’r pwerau i’r heddlu stopio a chwilio ymgyrchwyr am gyfarpar sy’n cael ei ddefnyddio yn ystod protestiadau.

Daw hyn ar ôl rhai dyddiau o brotestiadau gan Insulate Britain ar briffyrdd Llundain, gan gynnwys yr M25, yr M1 a’r M4.

Mae’r llywodraeth bellach wedi cael pwerau i’w hatal nhw rhag atal y traffig ar y priffyrdd ac ar rai o’r prif heolydd i mewn ac allan o’r ddinas.

Bydd y mesurau newydd yn cael eu cynnwys mewn deddfwriaeth ddadleuol newydd yn ymwneud â’r heddlu, troseddau, llysoedd a dedfrydau.

Tra bod gweinidogion yn cydnabod yr hawl i brotestio, maen nhw’n dweud nad yw dirwy o £1,000 fel y gosb fwyaf llym yn cydnabod difrifoldeb atal traffig.

Yn ôl Boris Johnson, prif weinidog Prydain, mae’r fath ymddygiad yn “ddiofal ac yn hunanol”.