Mae Boris Johnson yn mynnu nad yw e eisiau cynyddu trethi eto os oes modd osgoi gwneud hynny.

Daw sylwadau prif weinidog Prydain ar ddechrau cynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig barhau i fynd i’r afael â’r economi ac argyfwng posib yn sgil costau byw.

Mae’n dweud ei fod e’n barod i wneud “penderfyniadau mawr” er mwyn adfer yr economi a’r Deyrnas Unedig ar ôl y pandemig Covid-19.

Ac mae e wedi tynnu sylw at y ffaith fod economi’r Deyrnas Unedig wedi adfer yn gynt nag economi’r un o wledydd eraill y G7.

Serch hynny, mae’n cydnabod fod prinder gyrwyr lorïau yn gwaethygu’r sefyllfa a allai barhau hyd at y Nadolig.

Mae disgwyl i filiau ynni godi ac i’r Credyd Cynhwysol gael ei dorri o £20 ar ddiwrnod araith y prif weinidog yn y gynhadledd ddydd Mercher (Hydref 6).

Bydd cynnydd mewn Yswiriant Gwladol yn cael ei gyflwyno fis Ebrill nesaf hefyd.

Amddiffyn penderfyniadau

Wrth siarad ar raglen Andrew Marr ar y BBC, mae Boris Johnson wedi amddiffyn yr holl benderfyniadau dadleuol, gan ddweud eu bod nhw’n angenrheidiol er mwyn adfer ar ôl y pandemig.

“Os gallaf i ei osgoi o gwbl, dw i ddim eisiau cynyddu trethi eto, wrth gwrs nad ydw i na chwaith [y Canghellor] Rishi Sunak,” meddai.

Er gwaetha’r feirniadaeth, mae Boris Johnson wedi cymharu ei hun â Margaret Thatcher.

“Fyddai Margaret Thatcher ddim wedi benthyg mwy o arian nawr, fe ddyweda’ i hynny wrthoch chi’n rhad ac am ddim,” meddai.

Mae’n mynnu nad oes yna’r “un gwrthwynebydd ffyrnicach… i godi trethi’n ddiangen” na fe, ond fod y pandemig heb gynsail.

Beirniadaeth

Roedd Boris Johnson i’w weld mewn hwyliau da ar ddechrau cynhadledd ei blaid, er ei fod e’n cael ei feirniadu yn sgil ei benderfyniadau.

A daw hynny er i bolau piniwn awgrymu bod y Ceidwadwyr ar y blaen i Lafur o hyd.

Wrth ysgrifennu yn The Sun, mae Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, wedi lladd ar “anhrefn” y gadwyn gyflenwi a’r prinder gyrwyr lorïau, gan gyhuddo’r prif weinidog o anwybyddu sawl rhybudd gan y diwydiant.

“Cafodd Boris Johnson ei rybuddio am yr argyfwng hwn, a wnaeth e ddim byd amdano fe,” meddai.

“Mae Prydain yn haeddu gwell na’r anallu a’r diffyg arweiniad hwn.”

Yn y cyfamser, mae Syr Iain Duncan Smith, cyn-arweinydd y Ceidwadwyr, yn galw am dro pedol ar y penderfyniad i beidio â pharhau â’r £20 ychwanegol mewn Credyd Cynhwysol.

Mae’n galw am ohirio’r penderfyniad tan fis Chwefror neu Fawrth “pan fyddan nhw’n gwybod beth yw cost byw, beth yw chwyddiant, a beth yw’r anawsterau yn y farchnad”.

O fis Ebril, fe fydd cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn codi 1.25% i dalu am fuddsoddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y Gwasanaeth Iechyd a gofal cymdeithasol.

Wrth ymateb i rai o’r pryderon, mae Rishi Sunak wedi cyhoeddi cronfa galedi gwerth £500m i helpu’r teuluoedd fydd yn cael eu heffeithio fwyaf, ond mae’n bosib na fydd yn ddigon i rai.