Mae cwch oddi ar arfordir yr Eidal wedi achub 65 o ffoaduriaid, gan gynnwys menywod a phlant, ar ôl iddyn nhw ffoi o Libya.
Doedd injan y cwch ddim yn gweithio, ac fe gafodd ei weld gan awyren fach oedd yn hedfan dros y Môr Canoldir.
Doedd y rhai oedd ar y cwch ddim yn gwisgo gwregysau diogelwch.
Cyrhaeddodd gwylwyr y glannau yn fuan wedyn i archwilio’r cwch.
Mae lle i gredu bod y rhai a gafodd eu hachub yn iach, ac fe ddywedodd y capten ei fod yn aros am orchymyn ynghylch ble i fynd â’r ffoaduriaid fel eu bod nhw’n ddiogel.
Mae oddeutu 44,000 o ffoaduriaid wedi cael eu hachub oddi ar arfordiroedd Ewropeaidd wrth groesi o Affrica, yn aml ar ôl iddyn nhw gael eu rhoi ar gychod anniogel.
Erbyn Medi 25, roedd mwy na 25,000 o ffoaduriaid wedi cael eu hatal gan yr awdurdodau a’u dychwelyd i Libya, yn ôl y Cenhedloedd Unedig.
Maen nhw’n aml yn cael eu cludo i ganolfannau cadw brwnt, lle maen nhw fel arfer yn cael eu harteithio a’u cam-drin.
Fe fu mwy na 1,100 o farwolaethau yn y Môr Canoldir eleni.