Mae Algeria yn cyhuddo Ffrainc o hil-laddiad wrth iddyn nhw alw eu llysgennad yn ôl o’r brifddinas Paris yn dilyn sylwadau honedig yr Arlywydd Emmanuel Macron.
Daw’r ffrae ar ôl i Ffrainc dorri nifer y fisas sy’n cael eu rhoi i drigolion yng ngogledd Affrica, gan gynnwys Algeria, am fod llywodraethau yno’n gwrthod derbyn ffoaduriaid sydd wedi cael eu halltudio gan Ffrainc.
Daeth cadarnhad o’r newyddion fod llysgennad Algeria wedi’i alw’n ôl ar gyfer “ymgynghoriadau” mewn datganiad gan Arlywydd Algeria neithiwr (nos Sadwrn, Hydref 2).
Yn ôl y datganiad, sylwadau gan Macron am Algeria oedd y rheswm, ac mae e wedi cael ei gyhuddo o “ymyrryd” yn sefyllfa Algeria ac o sarhau trigolion y wlad a fu farw yn brwydro yn erbyn rheolaeth Ffrengig.
Yn ôl y datganiad, mae troseddau Ffrainc yn cyd-fynd â’r “diffiniad mwyaf llym o hil-laddiad”.
Yn ôl y cyfryngau yn Ffrainc, fe wnaeth Emmanuel Macron sylwadau’n ddiweddar am lywodraethau ôl-ymerodraeth Algeria a’u hagweddau at Ffrainc.