Mae Syr Lindsay Hoyle, Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, wedi mynegi “pryder eithriadol” ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod llofrudd Sarah Everard wedi gweithio yn San Steffan bum gwaith y llynedd.
Cafodd Wayne Couzens, 48, ei ddedfrydu i oes o garchar yn yr Old Bailey yr wythnos ddiwethaf, ar ôl iddo gipio, treisio a llofruddio’r ddynes 33 oed yn Clapham yn ne Llundain ar Fawrth 3.
Symudodd Couzens i weithio ym maes gwarchodaeth seneddol a diplomyddol fis Chwefror y llynedd, lle’r oedd yn gyfrifol am batrolio safleoedd diplomyddol, gan gynnwys llysgenadaethau.
Mae’r ystadau seneddol yn cynnwys Palas Westminster, sef lleoliad Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.
Clywodd y llys fod gan Couzens ddiddordeb mewn “pornograffi rhywiol ciaidd” a’i fod e wedi dinoethi ei hun yn 2015 ac unwaith eto yn y dyddiau cyn iddo ladd Sarah Everard.
Ceisio atebion
Mae Syr Lindsay Hoyle am geisio atebion gan y Fonesig Cressida Dick, Comisiynydd Heddlu Llundain, yn ôl erthygl yn The Times.
“Fel pawb, dw i wedi cael fy ffieiddio gan lygredigaeth Wayne Couzens – ac rwy’n torri fy nghalon dros deulu Sarah Everard,” meddai.
“Dw i wedi gofyn i Heddlu Llundain gyfarfod â fi ar frys i drafod sut y gallai’r person hwn fod wedi’i farnu’n addas i’w anfon yma.
“Ymhellach, byddaf yn ceisio sicrwydd nad oedd neb ar yr ystâd seneddol mewn perygl ar unrhyw adeg.
“Diogelwch aelodau a staff fu fy mhrif flaenoriaeth erioed, felly dw i eisiau gwybod sut y gallai’r dyn hwn fod wedi croesi’r trothwy seneddol.”
Mesurau newydd yn yr Alban
Yn y cyfamser, mae Heddlu’r Alban yn dweud eu bod nhw am gyflwyno gwiriadau newydd ar gyfer plismyn ar eu pen eu hunain er mwyn sicrhau’r cyhoedd mai plismyn ydyn nhw.
Defnyddiodd Wayne Couzens gerdyn adnabod yr heddlu er mwyn twyllo Sarah Everard cyn ei chipio, ei threisio a’i llofruddio.
Fe fydd plismyn ar eu pennau eu hunain yn cynnig gwiriadau i unrhyw un sy’n poeni am eu diogelwch.
Bydd hyn yn golygu bod radio’r plismon i’w glywed yn glir a bod aelod o’r ystafell reoli’n cadarnhau pwy ydyn nhw.
Mewn parau mae cwnstabliaid fel arfer yn gweithio, ond mae rhai adegau pan fydd plismyn unigol yn mynd at aelod o’r cyhoedd, yn ôl Heddlu’r Alban.