Mae prif weinidogion y gwledydd datganoledig wedi galw ar Boris Johnson i wyrdroi penderfyniad ei lywodraeth i ddiddymu’r codiad o £20 yr wythnos mewn credyd cynhwysol.

Mewn llythyr ar y cyd a lofnodwyd gan brif weinidog Cymru Mark Drakeford, prif weinidog yr Alban Nicola Sturgeon, prif weinidog gogledd Iwerddon Paul Givan a’r dirprwy brif weinidog Michelle O’Neill, mae’r pedwar yn dweud eu bod yn ysgrifennu at brif weinidog y Deyrnas Unedig “gyda’r brys mwyaf, i wyrdroi penderfyniad annoeth eich Llywodraeth i dynnu’r codiad o £20 yr wythnos yn ôl i Gredyd Cynhwysol.”

Dywed y llythyr: “Mae eich Llywodraeth yn tynnu’r achubiaeth hon yn ei hôl yn union fel mae’r wlad yn wynebu argyfwng costau byw sylweddol.

“Y gaeaf hwn mae miliynau o bobl yn wynebu cyfuniad anghynaliadwy o gynnydd mewn costau bwyd ac ynni, chwyddiant yn codi, diwedd y cynllun ffyrlo, a chynnydd sydd ar ddod mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

“Nid oes unrhyw resymeg dros dorri cefnogaeth mor hanfodol ar adeg pan mae pobl ledled y DU yn wynebu gwasgfa ddigynsail ar gyllidebau eu haelwydydd.”

Gwrthwynebiad

“Yn ystod y mis diwethaf, mae mwyafrif llethol aelodau etholedig Holyrood, y Senedd, Stormont a San Steffan wedi lleisio eu gwrthwynebiad i’r toriad hwn i Gredyd Cynhwysol, fel y mae pedwar pwyllgor nawdd cymdeithasol pob senedd wedi gwneud.

“Mae pedwar Comisiynydd Plant pob gwlad, nifer o elusennau a grwpiau ffydd wedi mynegi eu pryderon dybryd hefyd, fel y mae miliynau o bobl sy’n wynebu caledi ychwanegol a diangen oherwydd y toriad hwn i Gredyd Cynhwysol yn erbyn cefndir o aeaf o galedi.

Maent yn mynd ymlaen i ddweud: “Rydym yn nodi cyhoeddiad eich Llywodraeth o Gronfa Cefnogi Aelwydydd – cydnabyddiaeth y bydd gormod o bobl yn methu cael dau ben llinyn ynghyd y gaeaf hwn. Yn anffodus, mae cronfa o £500 miliwn a fydd yn cael ei ddarparu yn unol â disgresiwn yn gwbl annigonol i wneud iawn am y diffyg o £6 biliwn mewn gwariant nawdd cymdeithasol a fydd yn deillio o’r toriad i Gredyd Cynhwysol.

“Mae eich Llywodraeth wedi gwrthod dro ar ôl tro cynnal unrhyw ddadansoddiad effaith o’r gostyngiad dros nos mwyaf i gyfradd sylfaenol nawdd cymdeithasol ers mwy na 70 mlynedd.

Tystiolaeth

“O’r herwydd, mae’n bwysig ein bod yn tynnu eich sylw at y corff cynyddol o dystiolaeth a dadansoddiad am y niwed y bydd y toriad hwn yn ei achosi.

“Mae ymchwil gan y Resolution Foundation ac Ymddiriedolaeth Trussell wedi tynnu sylw at yr effaith sylweddol a dinistriol y bydd tynnu’n ôl y codiad o £20 yr wythnos i Gredyd Cynhwysol yn ei chael ar incwm teuluoedd, gyda chynnydd cysylltiedig mewn ansicrwydd bwyd.

“Mae Sefydliad Legatum wedi llunio dadansoddiad sobreiddiol gan dynnu sylw at y ffaith bod y codiad o £20 yr wythnos wedi cadw 840,000 o bobl, gan gynnwys 290,000 o blant, allan o dlodi yn Ch2 2021.

“Nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl i ddilyn polisi yn gwbl fwriadol a fydd yn arwain at y cynnydd aruthrol a diangen hwn mewn tlodi plant a gofynnwn i chi ystyried niwed parhaus a chostau’r toriad hwn yn unol â hynny.

Caledi

Mae nhw yn parhau: “Mae’n bwysig nodi y bydd hyn yn cynyddu tlodi a chaledi heb gyflawni unrhyw fuddion cymdeithasol nac economaidd diriaethol. Dywedodd Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar Dlodi Eithafol a Hawliau Dynol – wrth alw arnoch i wyrdroi’r toriad hwn – er mwyn i weithlu iach a chymwys ddod i’r amlwg, rhaid i’ch Llywodraeth ddarparu lefelau digonol o warchodaeth gymdeithasol.

“Mae blynyddoedd o rewi budd-daliadau yn golygu nad yw Credyd Cynhwysol wedi cadw at gostau byw sy’n codi. Yn ychwanegol at hyn, mae chwyddiant yn codi yn golygu y bydd gan gyfradd sylfaenol o Gredyd Cynhwysol ar ôl y toriad hwn lai o bŵer prynu nag yr oedd ganddi ym mis Mawrth 2020.

Ychwanegant: “Er mwyn cefnogi adferiad ystyrlon o’r pandemig hwn mae’n rhaid i ni i ddechrau sicrhau bod anghenion ein rhai mwyaf agored i niwed yn cael eu diwallu. Mae’r toriad hwn yn bygwth tanseilio’r adferiad drwy leihau gallu chwe miliwn o bobl i gael dau ben llinyn ynghyd.

Argyfwng

“Nid yw’n rhy hwyr i chi wyrdroi’r penderfyniad i dynnu arian allan o bocedi’r tlotaf mewn cymdeithas ar adeg pan maent yn wynebu argyfwng costau byw difrifol.

“Rydym ni, gyda chefnogaeth lawn Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a Llywodraethau’r Alban a Chymru, yn eich annog i ystyried niwed moesol, cymdeithasol ac economaidd y toriad hwn, a gwneud y peth iawn a gwyrdroi eich penderfyniad i dynnu’r achubiaeth hon yn ôl.”

Mae copi o’r llythyr hefyd yn cael ei anfon at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, Canghellor y Trysorlys ac Ysgrifenyddion Gwladol perthnasol y gwledydd datganoledig.