Bydd Jess Fishlock, y Gymraes ac enillydd gwobr chwaraewr mwyaf gwerthfawr prif gynghrair bêl-droed yr Unol Daleithiau, yn sgwrsio â Laura McAllister, cyn-gapten Cymru, mewn rhaglen ddogfen arbennig fydd yn ceisio ateb y cwestiwn “A yw pêl-droed yn gêm gyfartal yma yng Nghymru?”
Bydd y rhaglen Laura McAllister: Gêm Gyfartal, i’w gweld ar S4C nos Fercher (Tachwedd 24) am 9 o’r gloch, wrth i Laura McAllister siarad â rhai o arwyr gorffennol, presennol a dyfodol y crys coch.
Yn eu plith mae Jess Fishlock, sydd wedi ennill 127 o gapiau dros ei gwlad, sy’n fwy nag unrhyw un arall yn hanes Cymru.
“Dwi’n chwaraewr proffesiynol yn America, ond weithiau pan fi’n dod gartref fi’n gweld rhai o’r merched dal yn gweithio cyn dod i camp [Cymru], neu weithiau ddim yn gallu prynu boots, a mae’n gwneud i mi sylweddoli fy mod i dal angen i wthio mwy a chreu newid,” meddai.
“Mae tâl cyfartal yn sgwrs ddifyr. Wna’i ddim mynd i mewn i ffigyrau oherwydd mae gen i lot o barch tuag at Gymdeithas Bêl-droed Cymru.
“Os ydyn ni’n mynd i gystadleuaeth fawr ac mae’r dynion yn mynd i gystadleuaeth fawr, dydw i ddim o’r farn y dylwn ni gael arian o’r pot maen nhw’n cael gan UEFA neu FIFA, a dwi ddim yn credu fod hynny’n unrhyw beth i’w wneud gyda’r Gymdeithas.
“Efallai byddai UEFA yn rhoi £10m mewn arian gwobr i’r menywod, ond i’r dynion, byddan nhw rhoi £250m, felly dw i ddim yn meddwl ein bod ni’n haeddu’r arian yna.
“Ond os wyt ti’n cymryd ma’s yr arian gwobr ac UEFA a’r gystadleuaeth mawr, a phan ti ddim ond yn sôn am Gymdeithas Bêl-droed Cymru. a Chymru a’r dynion a’r merched – rydyn ni’n gwneud gwmws yr un peth dros ein gwlad.
“Mi fyddai unrhyw wahaniaeth yn y tâl yna yn annerbyniol.”
Mae’r gamp wedi symud ymlaen yn bell iawn ers i Laura a’i chyd-chwaraewyr bledio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn y 1990au i gymryd cyfrifoldeb am redeg tîm merched cenedlaethol.
Cofio cyfnod gwahanol
Fis diwethaf, wnaeth gêm y merched yn erbyn Estonia ddenu torf o 5,455 i Stadiwm Dinas Caerdydd, sef y dorf fwyaf mae’r tîm erioed wedi ei chael yn eu gwylio.
Ond mae Kathryn Morgan, y cyn-gefnwr de a enillodd 51 o gapiau dros Gymru yn ystod y 1990au a’r 2000au, yn cofio cyfnod tra gwahanol i’r tîm cenedlaethol.
“Fi’n cofio bod yn hynod o gyffrous i fynd i twrnament yn yr Algarve,” meddai.
“Gaethon ni amlen ar y diwrnod cyntaf hefo enw bob un chwaraewraig ag oedden ni i gyd fatha, ‘Beth yw hwn?’ Agor yr amlen – ac roeddwn i’n dysgu ar y pryd ac roeddwn i’n colli pythefnos o waith heb dâl, felly roedd pawb yn colli gwaith am bythefnos.
“Agor yr amlen, ac roedd deg punt yna am y deg diwrnod, yn golygu’n bod ni’n cael gwario punt bob dydd. Ro’n ni’n gandryll i fod yn onest, a tu mewn just yn llosgi!
“Fi’n cofio cael un crys i ymarfer ynddo am wythnos ac un crys i chwarae ynddo y tymor.
“Roedd crys cynta’ fi yn triple XL; Mark Delaney oedd y cefnwr de felly roeddwn i’n gwisgo crys yr un maint â Mark Delaney, ac wrth gwrs roedd e’n eitha’ tal!
“Mae o fel bod ni’n gorfod brwydro am y pethau mae’r dynion yn cael yn naturiol.”
Cadw chwaraewyr yng Nghymru
Mae Angharad James yn aelod amlwg arall o dîm presennol Cymru, sydd hyd yma heb golli yn eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2023, gyda dwy gêm fawr yn erbyn Groeg a Ffrainc ar y gorwel mis yma.
Mae hi’n chwarae yng nghanol cae i North Carolina Courage, ac mae hi hefyd ymysg y chwaraewyr sydd yn siarad â Laura yn y ddogfen.
“Mae’r gêm wedi symud yng Nghymru shwt gymaint, ond mae dal gymaint mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr fod y merched sydd yn dod trwyddo yn dod trwyddo drwy chwarae pêl-droed yng Nghymru achos ni mo’yn cadw’r dalent yma os ydan ni’n gallu,” meddai.
“Mae cymaint o fenywod sydd yn chwarae pêl-droed ar y funud dal gydag ail job; mae’n rhaid i hwnna newid achos sut wyt ti fod i gael y gorau allan o chwaraewyr pan maen nhw’n gorfod gweithio tan 10 o’r gloch yn y nos, ac wedyn ymarfer am 8yb?
“Beth sy’n rhaid digwydd nawr yn y gêm menywod yw bod pawb yn broffesiynol ac nid jyst mewn teitl, ond popeth sy’n dod gyda fe, fatha’r dynion.”