Mae’r cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn fanteisiol i’r ddwy blaid, ond fe fydd gan Blaid Cymru “heriau o’u blaenau” cyn yr etholiad nesaf, yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Gareth Hughes.
Bydd y cytundeb yn para am y tair blynedd nesaf.
Nod y fargen yw “mynd i’r afael â materion sy’n cymryd yr ymdrech wleidyddol a pholisi fwyaf i’w datrys”.
Bydd y pleidiau’n cydweithio i ddatblygu a goruchwylio’r gwaith o wireddu’r polisïau, sy’n ymwneud â 46 maes.
Mae darparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd, ymrwymiad i gymryd camau radical ar fyrder i fynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi, a diwygio’r Senedd yn y tymor hir, i gyd yn rhan o’r fargen.
Etholiad
Yn ôl Gareth Hughes, er bod manteision “amlwg” i’r pleidiau fe fydd gan Blaid Cymru her cyn yr etholiad nesaf sydd i’w ddisgwyl yn 2026.
“Oes, mae yna fanteision amlwg i’r ddwy Blaid fan hyn; Plaid yn cael y cyfle i wthio eu hagenda, a Llafur yn cael eu mwyafrif,” meddai wrth golwg360.
“Ond mi fydd hi’n anodd iawn i Blaid Cymru gyda heriau mawr o’u blaenau cyn yr etholiad nesaf.
“Mi fyddan nhw [Plaid Cymru] bryd hynny yn siwr o feirniadu Llafur ac er nad ydyn nhw’n yn rhan o’r Cabinet, mi fyddan nhw’n rhan o’r hyn sydd wedi digwydd yn y tair blynedd nesaf yma.
“Ac ydy, mae’n fantais i unrhyw blaid gael dylanwad ar Lywodraeth y dydd ac mae hyn yn mynd i fod yn fantais i Blaid Cymru, does dim dwywaith am hynny.
“Ond bydd e’n anodd mae’n siŵr i’r aelodau hynny ar lawr gwlad mewn llefydd fel y Rhondda, Caerffili a’r cymoedd ble mae Plaid Cymru a Llafur yn ceisio eu gorau i gael mantais dros ei gilydd.
“Yn yr ardaloedd yna, mi fydd yn anodd iawn i’r bobol yn y cymunedau yna ble mae Plaid Cymru yn brwydro yn erbyn Llafur ar lefel leol, tra bod y Blaid ar lefel genedlaethol nawr yn cydweithio â Llafur.”
Cynnwys y cytundeb
Fydd Aelodau Plaid Cymru ddim yn ymuno â Llywodraeth Cymru fel Gweinidogion na Dirprwy Weinidogion, ond bydd Plaid Cymru yn penodi aelod arweiniol dynodedig ar gyfer y cytundeb.
Bydd pwyllgorau sy’n cynnwys Gweinidogion y Llywodraeth ac aelodau dynodedig Plaid Cymru’n cael eu sefydlu i gytuno ar faterion sydd wedi’u cynnwys yn y cytundeb.
Mae’r rhaglen bolisi wedi’i rhannu’n bedair rhan, sef Gweithredu Radical mewn Cyfnod Heriol; Cymru Wyrddach i fynd i’r afael â Newid Hinsawdd a’r Argyfwng Natur; Diwygio Sylfaeni Cymru; a Chreu Cymru Unedig, sy’n Decach i Bawb.
Ynghyd â diwygio’r dreth gyngor, cyflwyno ardollau twristiaeth leol, ac ehangu gofal plant am ddim i bob plentyn dwyflwydd oed, mae’r rhan gyntaf yn cynnwys gweithredu ar ail gartrefi.
Fe wnaeth cyrff rheoli Llafur Cymru a Phlaid Cymru gymeradwyo’r cytundeb ddydd Sadwrn (Tachwedd 20).
Bydd aelodau Plaid Cymru yn pleidleisio dros y cytundeb yn ystod cynhadledd rithwir y blaid dros y penwythnos gyda’r cytundeb yn cael ei weithredu o Ragfyr 1.