Mae’r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn “gam pwysig iawn ymlaen”, yn ôl Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru.
Ar ôl wythnosau o drafod, cafodd y cytundeb ei gyhoeddi heddiw (dydd Llun, Tachwedd 22), ac mae’n cynnwys Rhaglen Bolisi sy’n ymdrin â 46 maes gwahanol.
Mae’r meysydd hynny’n cynnwys gweithredu “radical” ar ail dai, cinio ysgol am ddim i holl ddisgyblion ysgolion cynradd Cymru, ac ehangu’r Senedd.
Er na fydd gan Blaid Cymru Weinidogion yn y Llywodraeth, mae hynny’n “fantais” i’r blaid, meddai Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Arfon.
“Cam pwysig ymlaen”
Mae Pwyllgor Gwaith Plaid Cymru wedi cymeradwyo’r cytundeb, a bydd yr Aelodau’n pleidleisio arno’n derfynol dros y penwythnos nesaf.
“Yn sicr mae o’n gam pwysig iawn ymlaen mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru,” meddai Siân Gwenllian wrth golwg360.
“Dw i’n credu bod gweld cydweithio aeddfed rhwng dwy blaid sydd efo llawer o dir cyffredin yn y Senedd yn rhywbeth y bydd pobol Cymru’n ei groesawu’n fawr iawn.”
Yn ogystal â rhoi cinio am ddim i bob disgybl cynradd yng Nghymru – rhywbeth y mae Siân Gwenllian yn falch iawn bod cytundeb arno – mae’r rhaglen yn cynnwys gwneud ymdrechion i wella darlledu a chyfathrebu yng Nghymru.
Mae’r cymal hwnnw wedi cael ei groesawu gan y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol, ac yn ôl Siân Gwenllian, mae’n “gam pwysig yn ymlaen ar gyfer datblygu ein gwlad ni, a datblygu democratiaeth yng Nghymru”.
Dim clymblaid yw’r cytundeb rhwng y ddwy blaid, ac ni fydd gan Blaid Cymru Weinidogion na Dirprwy Weinidogion yn y Llywodraeth, ond yn sgil hynny bydd Aelodau Plaid Cymru yn parhau i “wneud gwaith effeithiol” yn craffu yn y Senedd, meddai Siân Gwenllian.
“Roedd hynny wedi cael ei wneud yn glir reit o’r cychwyn, mae o’n rhoi mantais i ni mewn gwirionedd,” meddai.
“Mae yna gymaint o faterion yn y rhaglen bolisi yma fyddwn ni’n cydweithio arnyn nhw, ond mae yna faterion sydd ddim yn y rhaglen bolisi yma y byddwn ni’n cario ymlaen i fod yn effeithiol, yn craffu, ac yn dal y Llywodraeth i gyfri arni hi.
“Dydyn ni ddim yn cael ein tynnu mewn i gymryd cyfrifoldeb ar y cyd ar gyfer pob maes llywodraeth, mae gan Lywodraeth Cymru raglen lywodraeth eu hunain.
“Mi fydd y Cytundeb yn plethu mewn i honno, ond mae yna faterion mawr tu allan i’r cytundeb yma a byddwn ni’n dal i wneud gwaith effeithiol fel Aelodau yn y Senedd yn craffu ac yn eu dal nhw i gyfri.”
Cydweithio’n “bwysicach nag erioed”
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi croesawu’r cytundeb, gan ddweud ei bod hi’n bwysicach nag erioed i’r pleidiau gydweithio â’i gilydd i fynd i’r afael â’r materion mawr sy’n wynebu Cymru.
Er hynny, dywed Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, ei bod hi’n “gwbl hanfodol bod pob plaid a’r rhanddeiliaid yn cydweithio i fynd i’r afael â’r argyfwng yng ngwasanaeth iechyd Cymru wrth i ni barhau i adfer wedi Covid”.
“Ar yr un pryd ag ansefydlogrwydd swyddi, costau byw cynyddol, a’r coronafeirws, mae pobol dros Gymru angen gweld datrysiadau ymarferol i’w problemau, a dyna fydda i a’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn parhau i weithio tuag ato,” meddai.
‘Gwleidyddiaeth aeddfed’
Bydd Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynlluniau ar gyfer diwygio’r Senedd hefyd, yn seiliedig ar 80 i 100 o aelodau, cam sydd wedi cael ei groesawu gan Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol Cymru fore heddiw (dydd Llun, Tachwedd 22).
Mae’r Blaid Werdd wedi croesawu’r cyhoeddiad, a’r Rhaglen Bolisi hefyd, gan ddweud mai “dim ond gwleidyddiaeth aeddfed all fynd i’r afael â’r problemau rydyn ni’n eu hwynebu dros y degawdau nesaf”.
“Rydyn ni’n croesawu’r cynigion sydd yn y cytundeb, yn enwedig Senedd â rhwng 80 a 100 sedd,” meddai llefarydd.
“Mae’n bwysig cael Aelod o’r Blaid Werdd yn yr ystafell, a bydd gan Gymru hynny yn 2026.”
Yn ôl y cyfreithiwr Jonathan Rhys Williams ar Twitter, dylai ehangu’r Senedd o 60 aelod i rywle rhwng 80 a 100 olygu bod y Blaid Werdd yn cael Aelod o’r Senedd am y tro cyntaf.
‘Llanast cyfansoddiadol’
Ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi gwrthwynebu’r Cytundeb, gan ddweud wrth ITV Wales nad yw hon yn fargen i Gymru, ond “yn fargen sy’n gweithio i Mark Drakeford ac Adam Price”.
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, bydd y cytundeb yn achosi “llanast cyfansoddiadol”, ac mae’n peryglu adferiad economaidd y wlad wedi’r pandemig.