Mae plant ysgol yng Ngheredigion yn ôl yn cael eu “trochi” wyneb yn wyneb yn yr iaith Gymraeg i gefnogi eu dysgu ar ôl gorfod symud ar-lein yn ystod y pandemig.
Clywodd aelodau o bwyllgor iaith Cyngor Sir Ceredigion yr wythnos hon y gall plant sydd angen cymorth gyda’u Cymraeg fynd i un o dair canolfan drochi yn y sir ar gyfer gwersi dwys – pum niwrnod yr wythnos am hanner tymor – i sicrhau eu bod yn gallu cymryd rhan lawn mewn addysg a bod ar yr un lefel â’u cyfoedion.
Ar hyn o bryd, mae rhestr aros ar gyfer canolfan Aberteifi, meddai’r swyddog rheoli Menna Beaufort-Jones, gyda’r disgyblion hynny’n derbyn darpariaeth rithwir. Mae hyn yn sefyllfa debyg i bawb oedd angen cymorth gyda’r Gymraeg yn ystod y cyfnod clo.
Ychwanegodd fod wyth disgybl yng nghanolfan Penweddig ar hyn o bryd, 12 yn Felin Fach a deg yn Aberteifi, gyda deg arall i fod i ddechrau ar ôl y Nadolig.
Mae disgwyl newyddion am gais am gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer trochi iaith gyda thri phrosiect ar y gweill os yw’n llwyddiannus – un ar gyfer disgyblion a gollodd flwyddyn chwech oherwydd y cyfyngiadau symud ac sydd angen cymorth, yr ail ar gyfer plant a gollodd flwyddyn un ac sydd angen cymorth ychwanegol cyn dechrau’r cyfnod allweddol nesaf ac yn drydydd adolygiad o ddarpariaethau rhithwir.
Clywodd y pwyllgor am waith “ffantastig” Anwen Eleri Bowen, sydd wedi bod yn hyrwyddo’r Siarter Iaith ac yn cynnwys pobol ifanc yn yr iaith ym mhob agwedd ar eu bywydau gyda dathliadau, darpariaeth ar-lein a digwyddiadau.
‘Cadarnhaol’
“Mae’n gadarnhaol iawn ac yn bwysig iawn eich bod wedi llwyddo mewn cyfnod anodd iawn i drochi’r disgyblion hynny yn yr iaith Gymraeg,” meddai’r Cynghorydd Keith Evans.
Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ar strategaeth y Gymraeg mewn addysg ei gwblhau yn gynharach y mis hwn, ac mae’r canlyniadau’n cael eu hadolygu ar hyn o bryd.
Ond mae swyddogion yn aros am ddiweddariad ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiffinio ysgolion Cymru cyn gwneud unrhyw ymateb terfynol, gydag adroddiad i’r pwyllgor yn y flwyddyn newydd.