Mae nifer o fusnesau a sefydliadau wedi lansio ymgyrch #GwenerGwyrdd er mwyn annog pobol i droi eu cefnau ar Ddydd Gwener Du.
Bydd Dydd Gwener Du yn cael ei gynnal ddiwedd yr wythnos hon (Tachwedd 26), ac mae Dillad a Thecstilau Cynaliadwy Cymru yn gofyn i bobol “wrthod prynu stwff anghynaladwy”.
Maen nhw hefyd yn annog pobol i rannu negeseuon a lluniau ‘Dw i’n cefnogi #GwenerGwyrdd’ ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r grŵp, sy’n cynnwys SustFashWales, Caffi Trwsio Cymru, Cadwch Gymru’n Daclus, Prifysgol De Cymru, Onesta, Gad Ni Chwarae 3, a Chyfeillion y Ddaear Cymru, yn cydweithio er mwyn mynd i’r afael â’r effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol sy’n deillio o ddefnyddio dillad a thecstilau anghynaladwy.
Bwriad Dydd Gwener Du yw annog pobol i brynu mwy yn ystod y cyfnod yn arwain at y Nadolig, gan hyrwyddo bargeinion.
Yn ôl adroddiad gan y Green Alliance, mae 80% o’r eitemau sy’n cael eu prynu ar Ddydd Gwener Du yn cael eu taflu’n syth, neu’n cael eu taflu ar ôl eu defnyddio unwaith.
Mae Dillad a Thecstilau Cynaliadwy Cymru yn gofyn i bobol wneud addewid i beidio â phrynu unrhyw beth ddydd Gwener, neu’n gofyn i bobol addo cefnogi manwerthwyr a brandiau cynaliadwy Cymreig, lleol os ydyn nhw am brynu.
Yn ôl amcangyfrifon, y diwydiant ffasiwn sy’n gyfrifol am tua 10% o allyriadau nwyol tŷ gwydr y byd, ac mae’r diwydiant yn gollwng mwy o garbon na theithiau morgludo ac awyrennau rhyngwladol gyda’i gilydd.
‘Gwario’n ofer’
Dywed Helen O’Sullivan, sylfaenydd SustFashWales – platfform ar-lein sy’n dathlu ffasiwn cynaliadwy yng Nghymru – fod Dydd Gwener Du “yn annog pobol i wario’n ofer, yn annog diwylliant o orddefnyddio ac yn annog gormodedd o stwff nad ydyn ni ei angen”.
“Yn y pen draw mae hyn yn arwain at bentwr o wastraff,” meddai Helen O’Sullivan.
“Fodd bynnag, mae’r Dydd Gwener Gwyrdd yn anelu at rywbeth hollol wahanol trwy ganolbwyntio o’r newydd ar y brandiau a’r dylunwyr ffasiwn anhygoel sydd gennym yma yng Nghymru.”
‘Gorddefnyddio a gorwario’
“Fel busnes bach sydd wastad yn rhoi’r lle blaenaf i gynaliadwyedd a’r blaned, rydw i’n credu ei bod hi mor bwysig inni gefnogi mudiadau fel y Dydd Gwener Gwyrdd,” meddai Gabrielle Diana, sylfaenydd Onest, gwneuthurwr a manwerthwr dillad cynaliadwy o Lanelli.
“Fel cymdeithas, rhaid inni roi’r gorau i orddefnyddio a gorwario’n ofer gan fod hyn i gyd yn effeithio ar ein planed. Hyd yn oed ar ôl COP26 a’r dathliadau ynglŷn â’r addewidion a wnaed, mae yna gymaint o ymgyrchoedd marchnata sy’n annog pobl i wario ar y Dydd Gwener Du.
“Rhaid inni weithio gyda’n gilydd a hyrwyddo’r busnesau hynny sy’n annog pobl i droi eu cefnau ar y diwylliant defnyddio a gwneud dewisiadau gwell er budd y blaned.”
Trwsio eitemau
Dywed Phoebe Brown, cyfarwyddwr Caffi Trwsio Cymru yng Nghaerdydd, fod trwsio eitemau yn “ffordd wych o leihau gwastraff a lleihau allyriadau”.
“A ninnau ar drothwy’r Dydd Gwener Du, mae Caffi Trwsio Cymru yn un o blith llu o sefydliadau sy’n galw ar y cyhoedd i ailystyried faint o bethau maen nhw angen eu prynu,” meddai.
“Y #GwenerGwyrdd hwn, pam nad ewch chi ati i drwsio rhywbeth sy’n eiddo ichi yn barod yn hytrach na phrynu pethau newydd.”