Mae Heddlu De Cymru wedi lansio ymchwiliad i lofruddiaeth ar ôl i gorff dynes gael ei ganfod yn Llanilltud Faerdref.
Mae’n debyg fod y llofruddiaeth wedi digwydd mewn tŷ ar Rodfa’r Santes Anne tua 2:15 brynhawn dydd Sul (Tachwedd 21), ac mae presenoldeb yr heddlu yn parhau i fod yn gryf yn yr ardal.
Ar hyn o bryd, dydy’r heddlu’n methu â rhyddhau mwy o wybodaeth am yr un a gafodd ei lladd.
Does neb wedi eu harestio hyd yn hyn fel rhan o’r ymchwiliad, wrth i’r heddlu apelio am dystion a allai fod wedi gweld neu glywed rhywbeth amheus rhwng dydd Gwener ac amser y farwolaeth ddydd Sul.
Mae ystafell ymchwilio wedi ei hagor yng Ngorsaf Heddlu Canol Caerdydd, gyda thimau ymchwilio fforensig ar safle’r llofruddiaeth.
Datganiad yr heddlu
“Mae’n ddealladwy fod y digwyddiad hwn wedi achosi gofid sylweddol yn lleol a hoffwn sicrhau’r gymuned bod gennym ni dîm mawr o swyddogion yn gweithio’n galed i ganfod pwy oedd yn gyfrifol am y llofruddiaeth hon,” meddai’r Ditectif Uwcharolygydd Darren George, Prif Swyddog Ymchwilio’r digwyddiad.
“Mae gennym ni swyddogion yn y fan a’r lle a swyddogion yn cynnal ymholiadau o ddrws i ddrws ar draws y pentref.
“Mae ystafell ymchwilio hefyd wedi’i sefydlu yng Ngorsaf Heddlu Canol Caerdydd.
“Rwy’n apelio ar unrhyw un sy’n credu bod ganddyn nhw wybodaeth, waeth pa mor ddibwys y mae’n ymddangos, i gysylltu â ni – gallai’r hyn maen nhw’n ei ddweud wrthym ni fod yn hynod werthfawr i’r ymchwiliad.
“Hoffwn hefyd atgoffa pobol am y gofid y gall sïon a dyfalu ei achosi ac rwy’n gofyn i bobol ymatal rhag tanio hyn ar-lein ac aros am ddiweddariadau’r heddlu, a fydd yn cael eu rhyddhau fel y bo’n briodol trwy gydol yr ymchwiliad.
“Yn olaf, hoffwn ddiolch i’r gymuned leol am eu cefnogaeth hyd yma a rhoi sicrwydd iddyn nhw y bydd presenoldeb heddlu mawr yn aros yn yr ardal.”