Bydd rhai o gynghorau sir Cymru yn cael arian arbennig i greu darpariaeth i drochi disgyblion ysgol hŷn yn yr iaith Gymraeg, a hynny am y tro cyntaf erioed.
Mae canolfannau trochi wedi cael eu defnyddio ers degawdau i ddysgu’r iaith yn gyflym i blant sy’n hwyr yn troi at gael addysg cyfrwng Cymraeg, mewn rhai ardaloedd o’r wlad.
A nawr fe fydd wyth cyngor sir yn sefydlu eu canolfannau trochi cyntaf, a bydd holl awdurdodau lleol Cymru’n cael cyllid ychwanegol i ganolbwyntio ar sefydlu darpariaeth trochi hwyr newydd, neu ddatblygu eu darpariaeth.
Fe fydd darpariaeth trochi hwyr newydd yn cael ei sefydlu ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Torfaen, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Powys, a Bro Morgannwg.
Daw hyn wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi buddsoddiad o £2.2 miliwn yn y maes ym mis Medi.
Cefnogi dysgwyr
Bwriad y ddarpariaeth trochi hwyr yw helpu dysgwyr sy’n ymuno ag addysg Gymraeg pan maen nhw’n hŷn – ar ôl saith oed, er enghraifft – i feithrin sgiliau a hyder sydd eu hangen i barhau ag addysg drwy’r Gymraeg.
Bydd y buddsoddiad hwn, meddai’r Llywodraeth, yn cefnogi dysgwyr a allai fod wedi colli amser dysgu hanfodol, neu rai o’u sgiliau iaith, yn ystod y pandemig, ac yn cynnig help i ddisgyblion sydd ddim yn arfer defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol.
Mae Llywodraeth Cymru’n dweud y bydd y weledigaeth hon yn cyfrannu at y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac yn cynyddu’r defnydd o’r iaith o ddydd i ddydd.
“Perthyn inni gyd”
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
“Mae’r Gymraeg yn perthyn inni i gyd, a dw i wedi ymrwymo i ddarparu’r gefnogaeth sydd ei hangen i gyflawni amcanion strategaeth ‘Cymraeg 2050’ ac i helpu mwy ohonom i ddysgu a defnyddio ein hiaith.
“Mae’r ceisiadau a ddaeth i law gan awdurdodau lleol ledled Cymru am gymorth trochi hwyr yn dangos gwir frwdfrydedd dros ehangu’r rhaglen hon.
“Dw i wrth fy modd â’r ymrwymiad gwirioneddol ym mhob cwr o’r wlad i gefnogi ein dysgwyr i ymuno ag addysg Gymraeg, hyd yn oed os yw hynny’n digwydd yn ddiweddarach, a’u helpu i ddatblygu sgiliau byw dwyieithog.”
Bydd pob rhan o Gymru’n cael cyllid er mwyn ehangu rhaglenni trochi hwyr sy’n bodoli’n barod, ac er mwyn bod yn gymorth ychwanegol wrth drochi hwyr mewn ysgolion wedi’r pandemig.