Mae arbenigwr mewn uned frys yn rhybuddio bod y Gwasanaeth Iechyd yn niweidio cleifion.
Fe fu Dr Pete Williams, sy’n arbenigo mewn meddyginiaeth frys a meddyginiaeth frys i blant, wedi bod yn gweithio yn y byd meddygol ers dau ddegawd, ac mae’n teimlo bod natur fregus y Gwasanaeth Iechyd yn cael effaith negyddol ar bobol sydd angen gofal a thriniaeth.
Mae e wedi bod yn rhannu ei bryderon â rhaglen Wales this Week ar ITV Cymru.
“Rydan ni’n gorffen y shifft efo adran sy’n llawn,” meddai.
“Does dim capasiti mewn unrhyw ran o’r adran.
“Mae gen i chwe ambiwlans yn aros tu allan, a’r hiraf mae un wedi bod yno ydi ychydig yn llai na thair awr.
“Dydi hyn ddim yn gynaladwy.
“Rydan ni, yr adran hon, adrannau eraill o amgylch y wlad, y Gwasanaeth Iechyd ehangach, yn niweidio cleifion oherwydd dydyn nhw ddim yn derbyn gofal amserol.”
Nyrs yn Ysbyty Gwynedd
Bydd camerâu’r rhaglen yn dilyn staff rheng flaen yn uned frys Ysbyty Gwynedd, Bangor wrth iddyn nhw weithio dan bwysau.
Mae gan Linda Rycroft atgof poenus sydd yn aros gyda hi bob dydd wrth iddi weithio.
“Ddeunaw mlynedd yn ôl, collais i fy mam,” meddai.
“Roedd hi yn ei phumdegau cynnar, gartref drwy bwl o asthma.
“Wnaeth yr ambiwlans ddim cyrraedd oherwydd roedd o tu allan i ysbyty.
“Mae’n anodd iawn i mi rŵan oherwydd fi ydi’r person sy’n gwneud y penderfyniad hwnnw i gadw’r cerbyd tu allan.
“Felly fedra’ i roi fy hun yn y sefyllfa honno o fod yn aelod o’r teulu, o fod yn glaf.”
Bu’n gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd ers 2006, ac mae hi’n angerddol am ei swydd, ond mae ganddi amheuon am ddyfodol hirdymor y Gwasanaeth Iechyd hefyd.
“Yn bennaf oll dros y 18 mis diwetha’, y brif neges dw i wedi’i chlywed ydi ‘gofalwch am y Gwasanaeth Iechyd’ ac mae gennym ni oll gyfrifoldeb i wneud hynny – i sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd yno ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
“Dw i ddim eisiau bod ymhlith y nyrsys olaf sy’n gwylio’r Gwasanaeth Iechyd yn marw.”
Rheolwr gwlâu
Bethan Bee sy’n gyfrifol am reoli gwlâu’r ysbyty, a threfnu gwlâu ar gyfer cleifion, yn ogystal â threfnu iddyn nhw fynd adref.
Mae hi’n disgwyl gaeaf “prysurach nag erioed” ac i Covid ychwanegu at y pwysau ar staff.
“Mae dod i’r gwaith yn eithaf heriol ar adegau, ond dyna’r yrfa rydan ni wedi ei dewis, ac mae’r gwaith yn ddiddorol ac yn amrywiol felly dw i yn mwynhau’r rôl,” meddai.
“Dw i ddim yn ei ddifaru.
“Dw i ddim yn gwybod beth arall faswn i’n ei wneud, a bod yn onest.
“Nyrs fues i erioed. Dyma dw i wedi’i wneud er pan oeddwn i’n 18 oed.”
Mae hi hefyd yn teimlo nad yw’r Gwasanaeth Iechyd yn gynaladwy a bod y pwysau ar staff yn dechrau dod i’r amlwg.
“Dw i’n meddwl eu bod nhw’n ei deimlo fo’n feddyliol rŵan hefyd ar y wardiau,” meddai.
“Dydyn nhw ddim yn medru rhoi’r gofal maen nhw eisiau ei roi.
“Dydyn nhw ddim eisiau cleifion mewn ambiwlansys tu allan ond dyna sy’n digwydd yn anochel oherwydd yr oedi.
“Mae’n her bob dydd a dw i ddim yn gwybod am ba hyd y gall pobol barhau efo hyn.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Er gwaetha’r pryderon, mae Llywodraeth Cymru’n ffyddiog y bydd y Gwasanaeth Iechyd yn goresgyn yr heriau.
Bydd y sefyllfa’n gwella, yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan.
“Dw i ddim yn meddwl bod y Gwasanaeth Iechyd wedi torri,” meddai.
“Dw i’n credu ei fod e dan bwysau fel erioed o’r blaen.
“Ond dw i’n gwbl hyderus y down ni drwy hyn.
“Mae problem tymor byr fan hyn mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â hi, sef y presennol a sut ydyn ni am ddod drwy’r gaeaf hwn?
“Mae mater tymor hirach, sef sut ydyn ni’n mynd i’r afael â’r oedi a phobol sydd, yn blwmp ac yn blaen, yn dioddef mewn poen a dyna’r peth olaf dw i eisiau ei weld fel gweinidog iechyd.”
Ond mae hi’n dweud bod gan bawb gyfrifoldeb am eu hiechyd eu hunain, eu ffitrwydd a’u harferion bwyta.
“Does dim ateb cyflym yn mynd i ddod, ond rydyn ni’n cael ymgyrchoedd recriwtio enfawr, ac rydyn ni wedi rhoi arian ychwanegol sylweddol i mewn i’r system.”
Wrth ymateb yn benodol i sylwadau Dr Pete Williams, dywedodd Eluned Morgan ei bod hi’n anghytuno.
Ond mae hi’n cydnabod nad oes modd “cyrraedd cleifion yn gyflym… oherwydd y pwysau rydyn ni’n ei wynebu ar hyn o bryd”.
“Dw i’n gwbl hyderus bod y gweithwyr anhygoel yn y Gwasanaeth Iechyd sydd wedi llwyddo i’w cynnal eu hunain drwy gydol y pandemig am barhau i’n gwasanaethu ni, bobol Cymru, yn y ffordd maen nhw wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf, a dw i’n hyderus y down ni drwy’r gaeaf hwn,” meddai.