Mae nifer o bobol wedi marw a degau o bobol wedi’u hanafu ar ôl i gar gael ei yrru at dorf yn Wisconsin.

Fe ddigwyddodd yn ystod parêd Nadolig dinas Milwaukee.

Mae Waukesha y tu allan i Milwaukee, ryw 55 milltir i’r gogledd o Kenosha, lle cafwyd Kyle Rittenhouse yn ddieuog o saethu tri dyn yn farw yn ystod terfysgoedd fis Awst y llynedd.

Yn ôl heddlu Waukesha, bu farw o leiaf bump o bobol, a chafodd dros 40 o bobol eu hanafu ac mae ymchwiliad ar y gweill.

Cafodd 11 o oedolion a 12 o blant eu hanafu a’u cludo i’r ysbyty gan y gwasanaeth tân, ond dydy’r union gyfanswm ar y cyfan ddim yn glir.

Mae un person yn y ddalfa, ond does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.

Mae ysbyty plant Wisconsin yn dweud eu bod nhw wedi derbyn 15 o gleifion, ond nad oes neb wedi marw.

Mae lle i gredu bod offeiriad Pabyddol, eglwyswyr a phlant ysgol Babyddol ymhlith y rhai a gafodd eu hanafu.

Mae gofyn i bobol gadw draw o safle’r digwyddiad am y tro wrth i’r ymchwiliad barhau, ond mae’r awdurdodau’n pwysleisio nad ydyn nhw’n credu bod perygl i unrhyw un bellach.

Beth ddigwyddodd?

Mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, mae cerbyd coch yn torri trwy rwystrau ffordd ac yn cyflym wrth gyrraedd yr heol lle’r oedd y parêd ar y gweill.

Mae fideo arall yn dangos criw o ferched yn eu harddegau’n dawnsio ac yn gwisgo hetiau Siôn Corn.

Yna, mae’r cerbyd yn taro’r criw ac mae pobol yn gweiddi ac yn rhoi triniaeth i o leiaf un o’r merched ar lawr.

Mae fideo arall yn dangos y car yn taro aelodau o fand sy’n gorymdeithio yn y parêd a phobol eraill cyn gyrru i ffwrdd.