Mae cyfyngiadau clo wedi’u cyflwyno yn Awstria, ac mae disgwyl iddyn nhw bara 20 niwrnod a chael eu hadolygu ar ôl deng niwrnod.
Daw hyn wrth i nifer achosion Covid-19 y wlad gynyddu.
Yn ystod y cyfnod clo, fydd pobol ddim yn cael gadael eu cartrefi heblaw bod ganddyn nhw reswm hanfodol, megis mynd i siopa, mynd at y meddyg a chael ymarfer corff.
Mae’n rhaid i fwytai a siopau nad ydyn nhw’n hanfodol gau eu drysau, a bydd digwyddiadau torfol yn cael eu canslo.
Bydd ysgolion a chanolfannau gofal yn aros ar agor, ond mae rhieni’n cael eu hannog i gadw eu plant gartref.
Mae disgwyl i’r cyfyngiadau bara 20 niwrnod, ond byddan nhw’n cael eu hadolygu ar ôl deng niwrnod.
Fe ddaw wrth i 15,297 o achosion newydd gael eu cofnodi.
Bydd rhaglen frechu gorfodol yn dechrau ar Chwefror 1, ond does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.
Ychydig yn llai na 66% o boblogaeth Awstria sydd wedi’u brechu’n llawn – un o’r cyfraddau isaf yng ngorllewin Ewrop – ac mae ysbytai dan eu sang, yn enwedig yn Salzburg a rhannau gogleddol y wlad.
Roedd y llywodraeth yn gobeithio na fyddai’n rhaid cyflwyno cyfyngiadau, ond maen nhw’n dweud iddyn nhw orfod gwneud “penderfyniad anodd”.
Roedd protest yn ninas Fienna wedi denu 40,000 o bobol ddydd Sadwrn (Tachwedd 22).