Bydd galarwyr yn rhoi teyrngedau i’r Aelod Seneddol Syr David Amess yn ei angladd a phrosesiwn yn ei etholaeth yng ngorllewin Southend heddiw (dydd Llun, Tachwedd 22), cyn y bydd gwasanaeth yng Nghadeirlan Westminster fory (dydd Mawrth, Tachwedd 23).

Cafodd David Amess, a oedd yn dad i bump, ei drywanu wrth gyfarfod etholwyr mewn eglwys yn Leigh-on-Sea ar Hydref 15.

Bydd ei ffrind a’i gydweithiwr, Mark Francois, yn cyflwyno araith yn y gwasanaeth eciwmenaidd preifat yn Prittlewell heddiw.

Fe fydd y cyn-Aelod Seneddol Torïaidd, Ann Widdecombe, yn darllen datganiad ar ran y teulu.

Ar ôl y gwasanaeth am 1yh, bydd ceffylau’n tywys yr hers, gyda’r arch, drwy Southend, a’r disgwyl yw y bydd yn stopio tu allan i Ganolfan Ddinesig Southend a thu allan i swyddfa etholaeth David Amess.

Fory, bydd Offeren Requiem yn cael ei chynnal yng Nghadeirlan Westminster yn Llundain, a bydd neges gan y Pab yn cael ei rhannu.

Dywed Ian Gilbert, arweinydd Cyngor Southend, fod heddiw am fod yn “ddiwrnod eithriadol o emosiynol”.

Dywed fod teulu David Amess “yn deall bod nifer o bobol eraill yn y ddinas yn ei adnabod ac yn ei garu”, ac maen nhw wedi cytuno i’r gwasanaeth gael ei ddarlledu ar yr orsaf radio leol.

‘Torri eu calonnau’

Mewn cyfweliad, dywedodd y prif weinidog Boris Johnson wrth BBC Essex fod nifer o’i gydweithwyr yn y Cabinet wedi crïo wrth glywed y newyddion.

Roedd Boris Johnson i ffwrdd efo’r Cabinet pan glywodd y newyddion.

“Roedd pawb yn torri eu calonnau,” meddai.

“Roedden ni i gyd yn eistedd.

“Cefais fy ngalw allan, a derbyn y newyddion.

“Roedd rhaid i mi fynd yn ôl i ddweud wrth gydweithwyr yn y Cabinet, ac roedd nifer ohonyn nhw’n adnabod David ers degawdau, ac mae gen i gof fod nifer o’m cydweithwyr wedi dechrau crïo oherwydd ei fod yn ddarn mor ofnadwy o newyddion.

“Dw i’n meddwl ein bod ni wedi’n hysgwyd gan oblygiadau’r hyn ddigwyddodd, hefyd, a’r ffaith bod ei fywyd wedi dod i ben yn y ffordd honno.”

Dim ond rhai sydd wedi derbyn gwahoddiad fydd yn cael mynd i’r angladd, a fydd yn cael ei arwain gan y Parchedig Paul Mackay a’r Parchedig Monsignor Kevin William Hale.

Dywedodd arweinydd y Cyngor fod modd i bobol ddod i ddangos parch i David Amess drwy sefyll ar y stryd wrth i’r hers basio, a thrwy ysgrifennu yn y llyfr cydymdeimlo yn y Ganolfan Ddinesig cyn iddi gau am 7yh heno.

Mae’r teulu wedi gofyn bod cyfraniadau’n cael eu rhoi i elusennau yn hytrach na thuag at flodau neu deyrngedau eraill.

Mae’r elusennau yr oedd David Amess yn eu cefnogi’n cynnwys The Dog’s Trust, The Music Man Project, Prost8, Endometriosis UK, a’r Dame Vera Lynn Memorial Statue.