Mae cynllun i geisio achub y gylfinir yng Nghymru yn cael ei lansio heddiw (dydd Llun, Tachwedd 22).

Cafodd Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Adfer y Gylfinir ei lunio gan Gylfinir Cymru, sy’n arwain y prosiect ar y cyd â Llywodraeth Cymru.

Ei fwriad yw mynd i’r afael â’r gostyngiad yn nifer yr adar a’u hailddosbarthiad daearyddol.

Mae’r Cynllun Gweithredu yn amlinellu rhaglen am gyfnod o ddeng mlynedd i adfer y gylfinir sy’n bridio ac i sefydlogi’r gostyngiad yn eu nifer yng Nghymru.

Bydd y cynllun yn mynd i’r afael â sawl prif thema, sef adnabod ardaloedd o bwys i’r gylfinir, gwyrdroi’r ffactorau sydd wedi arwain at y gostyngiad yn niferoedd y gylfinir yn ystod y tymor bridio, sicrhau bod cymorth ar gael i alluogi ffermwyr a rheolwyr tir i gydweithio ar sail tystiolaeth, a chefnogi ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd ac addysg i ddylanwadu ar gwsmeriaid a’r galw am gynnyrch amaethyddol sy’n cefnogi cynnal cynefinoedd y gylfinir.

Diflannu erbyn 2033?

“Mae niferoedd gylfinirod sy’n nythu yng Nghymru’n dirywio’n sylweddol, ac os na fyddwn ni’n gweithredu nawr, gallai’r rhywogaeth hwn fod ar fin diflannu erbyn 2033,” meddai Patrick Lindley, cadeirydd Gylfinir Cymru.

“Fel y rhan fwyaf o weddill y Deyrnas Unedig ac Ewrop, rydym ni’n wynebu argyfwng hinsawdd ac argyfwng natur, ac mae colli gylfinirod sy’n nythu’n cael ei ystyried gan lawer yn un o’r blaenoriaethau cadwraeth adar pwysicaf yng Nghymru.

“Mae colli bioamrywiaeth yn bellgyrhaeddol, yn gymhleth ac yn heriol, ond mae nifer yn ystyried y byddai colli gylfinirod sy’n nythu o dirweddau Cymru’n un cam rhy bell o safbwynt bioamrywiaeth.

“Nod Gylfinir Cymru yw atal, ac o bosibl, gwrthdroi’r dirywiad hwn trwy roi’r cynllun gweithredu deng mlynedd hwn ar waith. Gan gydweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, sefydliadau amgylcheddol anllywodraethol, undebau ffermio, y byd academaidd ac unigolion, mae’r cynllun gweithredu deng mlynedd hwn yn wynebu’r her drwy osod cyfeiriad strategol ar gyfer y camau gweithredu sy’n cyd-fynd yn agos, er mwyn sicrhau enillion cyraeddadwy i’r gylfinirod nythu sy’n weddill yng Nghymru.”

‘Sefyllfa enbyd’

Mark Isherwood, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd yn y gogledd, yw Hyrwyddwr Rhywogaeth y Gylfinir yng Nghymru.

“Ers i mi ddod yn Hyrwyddwr Rhywogaeth y Gylfinir yng Nghymru yn 2016, rydw i wedi dysgu cymaint am sefyllfa enbyd y Gylfinir, fel rhywogaeth unigol ac fel ymbarél ecolegol neu rywogaeth ddangosol,” meddai.

“Rydw i wedi cael y fraint o weithio gyda Gylfinir Cymru, ers ei sefydlu fel cynghrair o sefydliadau arbenigol sy’n cydweithio gan eu bod oll yn angerddol ac yn benderfynol o sicrhau dyfodol y Gylfinir fel aderyn sy’n nythu yng Nghymru. Mae angen i ni ddeall y buddion niferus

a’r buddion aml-rywogaeth sy’n deillio o achub y Gylfinir o safbwynt gwytnwch ecosystem, diwylliant a threftadaeth naturiol.”

‘Cyfleu’r argyfwng hinsawdd i’r dim’

Yn ôl Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, “mae sefyllfa’r gylfinir yn cyfleu’r argyfwng hinsawdd i’r dim”.

“Nid yw’n fater i lywodraethau ac arbenigwyr natur fynd i’r afael ag ef ar eu pen eu hunain – mae’n fater y dylai pob un ohonom yng Nghymru ei berchnogi, ei gefnogi a bod yn rhan o’r ateb,” meddai.

“Diolch i Gylfinir Cymru am arwain y ffordd i adfer y rhywogaeth eiconig hon, maen nhw’n gwneud hynny er ein budd ni i gyd.

“Rydw i eisiau i genedlaethau’r dyfodol allu clywed cân hyfryd y gylfinir.

“Dyna pam yr ydw i eisoes yn buddsoddi dros £200 mil i gefnogi prosiectau sy’n helpu’r gylfinir yng Nghymru, a miliynau o bunnoedd pellach ar brosiectau sy’n rhoi cyfle i natur a bioamrywiaeth adfer a ffynnu, gan gynnwys cyllid i berchnogion tir a ffermwyr i wneud y penderfyniadau cywir o ran defnydd tir ar gyfer ein bywyd gwyllt.”