Mae ynni niwclear yn cynhyrchu llai o allyriadau carbon deuocsid yn ystod ei gylchred oes nag unrhyw ffynhonnell drydan arall, yn ôl Comisiwn Economaidd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ewrop (UNECE).

Wrth ddadansoddi cylchred bywyd allyriadau nwyon tŷ gwydr, daeth y comisiwn i’r canfyddiad mai niwclear sydd â’r ôl troed carbon isaf wrth fesur gramiau o garbon deuocsid fesul kW/h o drydan sy’n cael ei gynhyrchu.

Yn ôl yr adroddiad, niwclear sydd angen y lleiaf o dir yn ystod ei gylchred bywyd, ac mae ynni niwclear angen llai o fetel a mwynion na’r holl ffynonellau ynni glân.

Dydy ynni niwclear nac ynni adnewyddadwy ddim yn cynhyrchu carbon wrth gynhyrchu trydan, ond mae pob ffynhonnell yn creu rhywfaint o garbon deuocsid ar wahanol adegau, megis wrth adeiladu neu ddatgomisiynu.

Astudiaeth

Mae astudiaeth yr UNECE yn dangos bod niwclear yn cynhyrchu 5.1 i 6.4g o garbon deuocsid ar gyfer pob kW/h o drydan.

O gymharu, mae gwynt yn cynhyrchu 7.8 i 21g, a solar yn cynhyrchu 7.2 i 83g.

Mae y rhain i gyd yn llawer iawn is na nwy, sy’n cynhyrchu 403 i 513g o garbon deuocsid fesul kW/h yr awr, a glo sy’n cynhyrchu 753 – 1095g.

Yn ôl yr adroddiad, mae’n debyg bod pwerdai niwclear Hinkley Point C a Sizewell C yn Lloegr yn cynhyrchu 5.5g o garbon deuocsid fesul kW/h o drydan yn ystod.

Sizewell C a Hinkley Point C yw’r ddau bwerdy sydd â’r ôl troed carbon isaf yn hanes atomfeydd gwledydd Prydain, meddai’r adroddiad.

‘Rhaid gweithredu’

“Yma mae gennym ni ddadansoddiad gwyddonol, manwl sy’n cadarnhau niwclear fel technoleg werdd a chynaliadwy, sy’n defnyddio llai o garbon, llai o dir, a llai o ddeunydd na’r un arall,” meddai Tom Geatrex, prif weithredwr Cymdeithas y Diwydiant Niwclear.

“Os ydyn ni o ddifrif ynghylch torri allyriadau a chyrraedd targedau carbon-net, yna mae’n rhaid gweithredu ar y wyddoniaeth ac adeiladu niwclear newydd ynghyd â ffynonellau ynni carbon-isel eraill.”