Bydd modd i fariau, bwytai a champfeydd ailagor yn ninas Auckland yn Seland Newydd o fis nesaf, ond bydd rhaid i bobol ddangos tystiolaeth eu bod nhw wedi cael eu brechu’n llawn.

Daw cyhoeddiad y prif weinidog Jacinda Ardern wrth i gyfnod clo’r ddinas ddirwyn i ben ar ôl bron i bedwar mis.

Mae hefyd yn dechrau cyfnod newydd yn ymateb y wlad i’r pandemig, lle mae mwy a mwy o wledydd yn gofyn am dystiolaeth fod pobol wedi cael eu brechu’n llawn er mwyn cael mynediad at wasanaethau.

Bydd Seland Newydd yn symud i system ‘goleuadau traffig’ ar sail y defnydd o basbortau brechu o Ragfyr 2.

Roedd y wlad wedi bod yn rheoli’r tonnau cyntaf yn dda, ond mae’r amrywiolyn Delta wedi achosi trafferthion ers mis Awst ac mae’r sefyllfa wedi mynd allan o reolaeth y llywodraeth.

Dywedodd Jacinda Ardern fis diwethaf ei bod hi’n anelu i gael 90% o bobol wedi’u brechu os ydyn nhw’n gymwys cyn symud i’r system newydd.

Er na fydd modd bwrw’r targed bellach, mae’n dweud ei bod hi’n bryd cyflwyno system newydd – dim ond 83% o bobol dros 12 oed sydd wedi’u brechu’n llawn hyd yn hyn, ond mae’r ffigwr mor isel â 73% mewn rhai llefydd.

Protestiadau

Mae llywodraeth Seland Newydd yn wynebu cynnydd mewn protestiadau yn erbyn brechlynnau a chyfyngiadau’r pandemig erbyn hyn.

Mae polau piniwn yn dangos gostyngiad yn y gefnogaeth i Jacinda Ardern a’i llywodraeth ers iddyn nhw ennill yr etholiad ychydig dros flwyddyn yn ôl – ond maen nhw’n dal yn fwy poblogaidd na’u gwrthwynebwyr.

Mae oddeutu 200 o achosion newydd o’r feirws bob dydd ar hyn o bryd, a’r rhan fwyaf yn Auckland, ac mae oddeutu 85 o bobol yn yr ysbyty â Covid.

40 o farwolaethau a fu ers dechrau’r pandemig.

“Y gwir anodd yw fod delta yma ac nad yw am fynd i ffwrdd,” meddai Jacinda Ardern.

“A thra nad yw’r un wlad hyd yn hyn wedi llwyddo i ddileu delta yn llwyr ar ôl iddo gyrraedd, mae Seland Newydd mewn gwell sefyllfa na’r rhan fwyaf i fynd i’r afael ag e.”