Mae’r gyrrwr tacsi oedd wedi goroesi’r ymosodiad brawychol ar ei gerbyd y tu allan i ysbyty menywod yn Lerpwl yn dweud ei bod yn “wyrth” ei fod e wedi goroesi’r digwyddiad.

Ar Sul y Cofio yr wythnos ddiwethaf (Tachwedd 14), cafodd Emad Al Swealmeen, 32, ei ladd ar ôl ffrwydro’r cerbyd oedd yn cael ei yrru gan David Perry.

Llwyddodd y gyrrwr i ddianc cyn i’r cerbyd fynd ar dân ar ôl i ddyfais cartref ffrwydro.

Ac mae Perry a’i wraig Rachel wedi cyhoeddi datganiad drwy law’r heddlu yn diolch i’r cyhoedd am eu “haelioni anhygoel” ers y digwyddiad.

Maen nhw wedi diolch i staff yr ysbyty menywod a staff Ysbyty Aintree, Heddlu Glannau Merswy a’r Heddlu Gwrth-derfysgaeth.

“Dw i’n teimlo ei bod yn wyrth fy mod i’n fyw, a dw i mor ddiolchgar na chafodd neb arall eu hanafu yn y fath weithred fileinig,” meddai David Perry.

“Mae angen amser arna i nawr i geisio dod i delerau â’r hyn sydd wedi digwydd, ac i ganolbwyntio ar fy adferiad yn feddyliol ac yn gorfforol.

“Byddwch yn garedig, yn wyliadwrus a chadwch yn ddiogel, os gwelwch yn dda.”

Llythyr

Mewn llythyr sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Sul, Tachwedd 21), mae Serena Kennedy, Prif Gwnstabl Heddlu Glannau Merswy, y Maer Joanne Anderson, y Comisiynydd Heddlu Emily Spurrell a’r Maer Dinesig Steve Rotherham, wedi talu teyrnged i’r gwasanaethau brys a’u hymateb i’r digwyddiad.

“Nod brawychiaeth yn y pen draw yw creu anghytgord, diffyg ymddiriedaeth ac ofn yn ein cymunedau, a thra ein bod ni’n gwybod y bydd rhai pobol yn bryderus ac yn ofidus, rydym wedi gweld pobol ledled Lerpwl yn sefyll ochr yn ochr,” meddai’r llythyr.

“Ac mae hynny am fod Lerpwl, sydd â threftadaeth falch fel dinas amlddiwylliannol, a rhanbarth ehangach Glannau Merswy, bob amser yn cyd-dynnu ar adegau fel hyn ac mae balchder ein holl gymunedau’n glir i’w weld.”

Ymchwiliad

Mae’r heddlu’n ymchwilio i’r ymosodiad brawychol, ac i’r posibilrwydd fod cymhelliant Islamyddol iddo.

Ond mae lle i gredu eu bod nhw hefyd yn cadw meddwl agored ar hyn o bryd.

Mae swyddogion diogelwch yn parhau i ymchwilio i’r posibilrwydd mai’r ysbyty oedd yn cael ei dargedu, ac nid o reidrwydd y tacsi.

Mae pedwar dyn – sy’n 20, 21, 26 a 29 oed – i gyd wedi cael gadael y ddalfa ar ôl cael eu harestio a’u holi.