Mae dyn 63 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd A548 ym Mhensarn ger Abergele.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad am oddeutu 9.40 neithiwr (nos Sadwrn, Tachwedd 20), ar ôl i gerddwr gael ei daro gan gar BMW lliw du oedd heb ddod i stop yn dilyn y digwyddiad.

Cafwyd hyd i’r cerbyd yn ddiweddarach, a chafodd tri o bobol eu harestio a byddan nhw’n cael eu holi yn y ddalfa.

Bu farw’r dyn yn ddiweddarach yn Ysbyty Glan Clwyd, ac mae’r crwner wedi cael gwybod.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion neu ddeunydd dashcam o’r digwyddiad.

Roedd y cerbyd yn teithio o gyfeiriad y Rhyl tuag at Bensarn rhwng 9.30 a 9.40yh.