Mae adroddiadau bod Llafur a Phlaid Cymru wedi dod i gytundeb i gydweithio.
Daw hyn ar ôl i’r prif weinidog gyflwyno’r cytundeb i Bwyllgor Gwaith Llafur Cymru, yn ôl adroddiad ar wefan Darren Williams.
Mae’n debyg iddo gyflwyno’r cytundeb fel “dewis nid rhwng cael cytundeb o’r math hwn neu fynd heb gytundeb o gwbl”, ond yn hytrach, “rhwng cytundeb hirdymor fel hwn, a allai gynnig sefydlogrwydd gwleidyddol drwy gydol tymor y Senedd a galluogi Llafur i wthio’i rhaglen drwodd, neu gytundebau ar hap â phleidiau eraill ar sail un mater ar y tro”.
Pwysleisiodd fod y cytundeb yn “cyd-fynd â gwerthoedd Llafur” ond y byddai “Plaid Cymru yn awyddus i hawlio’r clod”.
Y cytundeb
Mae lle i gredu bod y cytundeb yn dangos bod y pleidiau wedi cytuno yn y meysydd canlynol:
- rheoli rhent
- ymestyn prydau ysgol gynradd am ddim
- gofal plant i blant dwy oed
- creu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol
- cyfyngiadau ar berchen ar ail gartrefi
- disodli treth y cyngor
- creu cwmni adeiladu a chwmni ynni dan berchnogaeth y cyhoedd
- newidiadau ym maint y Senedd a system ethol Aelodau o’r Senedd sy’n cynnwys sicrwydd ynghylch cydbwysedd rhwng dynion a menywod;
- a mesurau i hyrwyddo’r iaith Gymraeg
Er bod cydsyniad fod angen cytundeb o’r fath, mae rhai wedi mynegi pryderon.
Pryderon
Mae aelodau seneddol Llafur yn gofidio na fu digon o ymgynghoriad, ac y bydd modd i Blaid Cymru hawlio’r clod am y cytundeb.
Roedd rhai, mae’n debyg, yn gofidio am ddiffyg egwyddorion craidd fel hawliau menywod a phartneriaeth ag undebau llafur.
Ond yn ôl Mark Drakeford, mae’r cytundeb yn adlewyrchu’r hyn a gafodd ei drafod yn unig, ac nid materion ehangach.
Darlledu
Yn ôl adroddiadau, mae ymrwymiad yn y cytundeb i ystyried y posibilrwydd o geisio pwerau datganoledig tros ddarlledu.
Y bwriad, mae’n debyg, yw archwilio’r posibilrwydd o greu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu i Gymru i fynd i’r afael â gwendidau’r cyfryngau a’r ymosodiadau ar eu hannibyniaeth.
Byddai’n cefnogi’r defnydd o’r iaith Gymraeg, yn enwedig yn ddigidol, ac yn annog cystadleuaeth o fewn y cyfryngau.
Dim gweinidogion
Yn ôl y sôn, fydd Plaid Cymru ddim yn cael seddi yng Nghabinet Llywodraeth Cymru fel rhan o’r cytundeb.
A dydy’r cytundeb ddim chwaith yn gyfystyr â chlymblaid ffurfiol.
Ond bydd ymgynghorwyr Plaid Cymru’n cydweithio â’r Llywodraeth, yn ôl adroddiadau.