Mae’r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cael ei gyhoeddi, ac mae’n ymdrin â bron i hanner cant o wahanol feysydd.
Fe fydd y ddau bartner, Grŵp Senedd Plaid Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru, yn cydweithio dros y tair blynedd nesaf i ddatblygu a goruchwylio’r gwaith o wireddu’r polisïau, sy’n ymwneud â 46 maes, yn y cytundeb.
Mae darparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd, ymrwymiad i gymryd camau radical ar fyrder i fynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi, a diwygio’r Senedd yn y tymor hir, yn eu plith.
Fydd Aelodau Plaid Cymru ddim yn ymuno â Llywodraeth Cymru fel Gweinidogion na Dirprwy Weinidogion, ond bydd Plaid Cymru yn penodi aelod arweiniol dynodedig ar gyfer y cytundeb.
Bydd pwyllgorau sy’n cynnwys Gweinidogion y Llywodraeth ac aelodau dynodedig Plaid Cymru’n cael eu sefydlu i gytuno ar faterion sydd wedi’u cynnwys yn y cytundeb.
Rhaglen bolisi pedair rhan
Mae’r rhaglen bolisi wedi’i rhannu’n bedair rhan, Gweithredu Radical mewn Cyfnod Heriol; Cymru Wyrddach i fynd i’r afael â Newid Hinsawdd a’r Argyfwng Natur; Diwygio Sylfaeni Cymru; a Chreu Cymru Unedig, sy’n Decach i Bawb.
Ynghyd â diwygio’r dreth gyngor, cyflwyno ardollau twristiaeth lleol, ac ehangu gofal plant am ddim i bob plentyn dwyflwydd oed, mae’r rhan gyntaf yn cynnwys gweithredu ar ail gartrefi.
Mae’r camau sy’n cael eu cynllunio’n gosod cynnwys terfyn ar nifer yr ail gartrefi a thai gwyliau, mesurau i ddod â rhagor o gartrefi o dan berchnogaeth gyffredin, cynllun trwyddedu statudol ar gyfer llety gwyliau, a mwy o bwerau i awdurdodau lleol osod cyfraddau premiwm y dreth gyngor a chynyddu trethi ar ail gartrefi.
Fel rhan o’r cytundeb, bydd y ddau grŵp yn gweithio i sefydlu cwmni ynni sero net, o dan berchnogaeth gyhoeddus, i annog cynhyrchu ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r gymuned.
Fe fydd buddsoddiadau pellach i amddiffyn rhag llifogydd, a byddan nhw’n gweithio gyda’r gymuned ffermio i annog creu coetiroedd gan ystyried ffyrdd o sicrhau perchnogaeth a rheolaeth leol.
Bydd y grŵp yn cefnogi cynlluniau ar gyfer diwygio’r Senedd hefyd, yn seiliedig ar 80 i 100 o aelodau, cam sydd wedi cael ei groesawu gan Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol Cymru fore heddiw (dydd Llun, Tachwedd 22).
Y Gymraeg, Hanes Cymru ac enwau lleoedd
Mae mesurau newydd i gryfhau’r Gymraeg yn rhan o’r polisïau hefyd, gan gynnwys datblygu strategaeth ddiwylliant newydd, sy’n adlewyrchu amrywiaeth Cymru, iaith Gymraeg ffyniannus, y sectorau diwylliant, treftadaeth a’r celfyddydau.
Maen nhw hefyd wedi ymrwymo i wneud Hanes Cymru yn elfen orfodol yn y Cwricwlwm newydd i Gymru, ynghyd â Chyflwyno Bil Addysg Gymraeg, a fydd yn cryfhau Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn addysg.
Mae sicrhau bod enwau lleoedd Cymraeg yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo yn rhan o’r rhaglen bolisi hefyd, yn ogystal â gwella gwasanaethau iechyd meddwl i bobol ifanc.
‘Uchelgais wirioneddol’
Wrth gyhoeddi’r cytundeb, dywed Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, fod yr heriau sy’n ein hwynebu “yn gofyn am uchelgais wirioneddol”.
“Bron i chwarter canrif yn ôl, pleidleisiodd pobol Cymru o blaid hunanlywodraeth i Gymru, gydag addewid am fath newydd o wleidyddiaeth,” meddai.
“Rhoesant eu ffydd mewn democratiaeth newydd gyda chyfarwyddyd i weithio mewn ffordd wahanol – yn gynhwysol ac yn gydweithredol.
“Mae’r heriau sy’n ein hwynebu yn gofyn am uchelgais wirioneddol i wireddu syniadau radical.
“Mae canlyniadau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, effaith y pandemig, a bwriad pendant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i erydu pwerau’r Senedd i gyd yn cynyddu’r angen am newid mawr.
“Gyda’i gilydd, bydd yr addewidion polisi beiddgar yn uno Cymru ac o fudd i bob cenhedlaeth, boed yn brydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd neu’n wasanaeth gofal cenedlaethol, am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen.
“Rwy’n falch bod y Cytundeb Cydweithio arloesol hwn wedi’i seilio ar dir cyffredin mewn amryw faterion a fydd yn gwneud gwahaniaeth tymor hir i fywydau pobl.”
‘Cydsefyll cymdeithasol, planed gynaliadwy a democratiaeth iach’
Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford fod y Llywodraeth a Phlaid Cymru’n dod at ei gilydd “i ymateb i rai o’r materion pwysicaf sy’n wynebu ein gwlad”.
“Mae gan Lywodraeth Cymru Raglen Lywodraethu uchelgeisiol y bydd yn ei rhoi ar waith dros dymor y Senedd hon,” meddai.
“Ond nid gennym ni yn unig y mae syniadau da, ac rydym yn barod i weithio gyda phleidiau blaengar pan fyddwn yn rhannu dyheadau y gellir eu gwireddu er budd pobol Cymru.
“Mae’r Cytundeb Cydweithio hwn yn dod â Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru at ei gilydd i ymateb i rai o’r materion pwysicaf sy’n wynebu ein gwlad, megis y newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng ynni, a chostau byw.
“Trwy gydweithio, mae modd inni gyflawni mwy ar gyfer pobol Cymru. Bwriad y Cytundeb Cydweithio yw ymateb i’r heriau allanol sy’n ein hwynebu ac mae hefyd yn cynnig cyfle i adeiladu ar gyfleoedd ar gyfer y dyfodol.
“Bydd hefyd yn ein helpu i sicrhau bod gennym dros y tair blynedd nesaf Senedd sefydlog a chanddi’r cryfder i wneud newidiadau a diwygiadau radical.
“Mae’r ymrwymiadau hyn yn adeiladu ar werthoedd rydym yn eu rhannu – cydsefyll cymdeithasol, planed gynaliadwy a democratiaeth iach.”
Mae cyllid wedi’i neilltuo fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio, a bydd hynny’n cael ei adlewyrchu yn y Gyllideb ddrafft fis nesaf.
Bydd y drefn wleidyddol ar gyfer unrhyw faterion nad ydyn nhw’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio yn digwydd yn ôl y drefn arferol.
Datganoli darlledu: ‘cam bychan ond pwysig ar daith hir’
“Mae’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol wedi croesawu cymal yn y cytundeb arfaethedig rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru sydd yn galw am ddatganoli pwerau darlledu a chyfathrebu,” meddai’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol ar drothwy cyhoeddi’r Cytundeb Cydweithio.
Yn ôl y Cyngor, mae cynnwys cymal o’r fath yn gam bychan ar y daith hir i sicrhau tegwch cyfryngol i Gymru gan gyfrannu yn adeiladol at y daith hirach i wella natur a safon democratiaeth y wlad.
“Bydd datganoli darlledu o fantais garw i Gymru ac i’r Cymry,” meddai Bethan Jones Parry, aelod o Fwrdd y Cyngor.
“Mae’r pandemig wedi profi nad yw ein straeon a’n blaenoriaethau ni yn cyrraedd agenda y cyfryngau bob amser. Does dim dwywaith nad yw ein gwlad yn cael ei hadlewyrchu yn ei chyfanrwydd ar y cyfryngau Cymreig heb sôn am ar unrhyw blatfform Prydeinig.
“Mae trigolion a dinasyddion Cymru bellach yn gwybod beth yw maint y gagendor cyfryngol yma ac yn gwybod o brofiad hefyd nad yw’r sefyllfa bresennol yn iach, yn deg nac yn ddemocrataidd.”
Ychwanegodd nad yw nodi cefnogaeth yn ddigon gan bwysleisio bod angen strategaeth gyflawn a thargedau amser er mwyn cyflawni’r nod.
“Nid yw ‘ymchwilio i bosibiliadau’, ‘mynd i’r afael â phryderon’ a ‘chefnogi’, er yn gadarnhaol, yn ddigon bellach. Mae angen tipyn mwy o uchelgais ac arweiniad cryf – a hynny ar frys gan fod y sefyllfa fel ag y mae hi eisoes wedi ac yn parhau i wneud niwed i hunaniaeth Cymru a’i Senedd ddatganoledig,” meddai.
Mae’r Cyngor eisoes wedi ymateb i sawl ymgynghoriad ar ddatganoli darlledu gan gynnal cyfarfodydd cyson gyda gwleidyddion ac arbenigwyr yn y maes.
Yn ôl Bethan Jones Parry mae hyn yn amlwg yn dwyn ffrwyth ac felly yn sicr o barhau.
“Byddwn yn falch o barhau i gydweithio gyda gwleidyddion o bob lliw ynghyd ag eraill â chanddynt ddiddordeb ac sydd yn weithgar ym meysydd newyddiaduraeth, ffilm, radio a theledu lleol a mynediad i’r wê er mwyn cael y maen i’r wal cyn gynted ag y bo modd.”