Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dod o dan ragor o bwysau ar ôl i dorfeydd wasgu ar drenau unwaith eto dros y penwythnos.

Roedd miloedd o bobol wedi teithio i Gaerdydd i weld tîm rygbi Cymru’n curo Awstralia nos Sadwrn (Tachwedd 20), gyda llawer ohonyn nhw’n teithio ar drenau.

Daeth nifer o gwynion yn dilyn gemau pêl-droed a rygbi eraill yn ddiweddar, gyda theithwyr yn beio diffyg cerbydau am y torfeydd, gan alw’r sefyllfa’n bryderus ac anniogel.

Roedd rhai yn cwyno hefyd gan nad oedd llawer o deithwyr yn gwisgo masgiau, er bod hynny’n parhau i fod yn ofynnol ar drenau yng Nghymru.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru fod y gemau wedi rhoi pwysau ychwanegol ar eu gwasanaethau, a’u bod nhw am geisio ateb y galw yn y dyfodol.

Ymateb y Ceidwadwyr Cymreig

“Er bod penaethiaid Trafnidiaeth Cymru ond wedi dweud yr wythnos ddiwethaf eu bod nhw wedi dysgu gwersi am orlenwi, mae’n amlwg iawn nad oedd hynny’n wir,” meddai Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.

“Unwaith eto, cafodd teithwyr eu corlannu ar drenau fel gwartheg dros y penwythnos gyda’r gorlenwi mor ddrwg nes bod llawer yn cael eu gwasgu yn erbyn ei gilydd ac ar ffenestri.

“Rwyf wedi cael llond bol ar wthio gweinidogion Llafur a Thrafnidiaeth Cymru i weithredu i fynd i’r afael â gorlenwi.

“Mae’n hen bryd i benaethiaid wneud y peth iawn i’w cwsmeriaid a rhedeg mwy o gerbydau, yn enwedig pan fydd digwyddiadau mawr yn digwydd.

“Mae teithwyr yn haeddu teithio’n gyffyrddus a theimlo’n ddiogel bob amser, ond yn anffodus ar hyn o bryd, mae Llafur a Thrafnidiaeth Cymru yn eu gadael i lawr heb os.”

Ymateb Trafnidiaeth Cymru

Dywed Trafnidiaeth Cymru eu bod nhw wrthi’n cynyddu’r trenau sydd ar gael ar eu rhwydwaith, ond nad oedden nhw ar gael erbyn y gemau rhyngwladol diweddar.

“Ar hyn o bryd rydyn ni’n defnyddio’r holl drenau sydd ar gael i ni,” meddai llefarydd.

“Fe wnaethom redeg gymaint o wasanaethau â phosibl, a lle’r oedd hi’n bosibl, cynyddu’r gwasanaethau ar lwybrau poblogaidd.

“Mae’n dasg ar raddfa fawr cludo degau o filoedd o bobol ar ddiwrnod digwyddiad mawr, a hoffem ddiolch i’n cwsmeriaid am eu cydweithrediad ar y diwrnod a’r staff am eu gwaith caled parhaus.

“Rydym yn cyflwyno rhaglen drawsnewidiol ar draws rhwydwaith reilffyrdd Cymru a’r Gororau a fydd yn gweld £800m a mwy yn cael ei fuddsoddi mewn trenau newydd. Byddan nhw’n dechrau ymuno â’r rhwydwaith o’r flwyddyn nesaf ymlaen, gan ddarparu gwell capasiti a gwasanaethau amlach.”

Gorchudd wyneb

“Mae gwisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol yma yng Nghymru, oni bai bod unigolion wedi’u heithrio,” meddai’r llefarydd wedyn.

“Mae gennym arwyddion clir yn ein gorsafoedd ac mae cyhoeddiadau yn cael eu gwneud yn rheolaidd yn ein gorsafoedd ac ar ein gwasanaethau ynghylch hyn.

“Mae swyddogion tocynnau a Heddlu Trafnidiaeth Prydain hefyd yn atgoffa cwsmeriaid i wisgo gorchudd wyneb, ond gyda disgwyl y bydd llawer o wasanaethau yn brysur iawn, dydy hi ddim mor rhwydd i’n swyddogion tocynnau a swyddogion yr heddlu symud yn rhwydd ar y trenau yn ôl eu harfer.”

Mae golwg360 hefyd wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ymateb.

Beirniadu Trafnidiaeth Cymru am drenau gorlawn

Fe fu sawl achos yn ddiweddar, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig