Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu Trafnidiaeth Cymru yn dilyn sawl achos o drenau gorlawn yn ddiweddar.

Dau gerbyd yn unig oedd ar drên rhwng Caerdydd a Manceinion, gan orfodi teithwyr i sefyll neu eistedd ar lawr.

Bu’n rhaid i un teithiwr helpu dynes ddall i gamu dros bobol ar y llawr, ac roedd gan ddynes arall ormod o ofn yfed rhag ofn na fyddai hi’n gallu gwthio trwy’r dorf i gyrraedd y tŷ bach.

Ddydd Sadwrn (Tachwedd 13), teithiodd miloedd o bobol i Gaerdydd ar gyfer gêm bêl-droed Cymru yn erbyn Belarws, ac roedd y trenau dan eu sang ar ddiwedd y gêm, wythnosau’n unig ar ôl golygfeydd tebyg ar ddiwedd gêm rygbi Cymru.

‘Does dim byd yn newid’

“Mae trenau gorlawn yn dod yn fwy cyffredin, ond eto does dim byd yn newid, er gwaetha’r ffaith fod y gemau hyn yn y dyddiadur chwaraeon fisoedd ymlaen llaw,” meddai Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.

“Er i ni alw am gyflwyno rhagor o gerbydau yn dilyn gorlenwi ar ôl gêm rygbi Cymru, mae staff yn y corff sydd dan berchnogaeth Llafur yn cau eu llygaid ac yn gobeithio bod y broblem yn mynd i ffwrdd.

“Rhaid iddyn nhw roi’r gorau i anwybyddu’r mater difrifol hwn a chymryd camau i fynd i’r afael â fe o’r diwedd oherwydd mae teithwyr Cymru’n haeddu llawer gwell na’r gwasanaeth maen nhw’n ei brofi ar hyn o bryd.”