Mae rhai o gynhyrchwyr mêl Cymru wedi cael eu gwahodd i un o ddigwyddiadau bwyd a diod mwyaf Prydain, y BBC Good Food Show.

Bydd Bee Welsh Honey, Gwenynfa Pen y Bryn a Mêl Gwenyn Gruffydd yn arddangos eu cynnyrch yn y digwyddiad rhwng Tachwedd 25 a 28 yng nghanolfan yr NEC yn Birmingham.

Mae’r tri chynhyrchydd yn gyn-enillwyr y Great Taste Award, a byddan nhw’n ymddangos yn y digwyddiad am y tro cyntaf.

Yn fêl i gyd

Cawson nhw nawdd er mwyn cymryd rhan gan rwydwaith Clwstwr Mêl, sy’n canolbwyntio ar godi proffil a meithrin cysylltiadau yn y sector cynhyrchu mêl yng Nghymru.

Haf Wyn Hughes yw arweinydd Clwstwr Mêl Cymru, ac mae hi’n dweud bod cael tri chwmni mêl o Gymru yn y digwyddiad yn “destun balchder mawr.”

“Mae angen amser i baratoi a masnachu ar y lefel hon, ac mae’r cwmnïau yma wedi gweithio’n brysur iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf,” meddai.

“Maen nhw bob amser yn barod i drafod eu cynnyrch arbennig a’u gwenyn, mae ganddyn nhw’r awch ac egni i lwyddo ac maen nhw’n angerddol am eu cynnyrch.

“Felly, rwy’n hynod o falch eu bod wedi derbyn y cyfle cyffrous hwn i arddangos gyda’r Clwstwr Mêl mewn sioe defnyddwyr mor flaenllaw.

“Hefyd, o safbwynt defnyddwyr, mae’r galw am fêl blodau gwyllt a grug Cymreig mor uchel, felly mae’n amser delfrydol i ymwelwyr â’r BBC Good Food Show i lenwi eu cypyrddau dros y gaeaf a phrynu’r anrhegion arbennig hynny ar gyfer y Nadolig.

Rhai o gynhyrchion Gwenynfa Pen y Bryn