Roedd pris cyfartalog tŷ yng Nghymru yn ddrytach nag erioed yn ystod trydydd chwarter eleni.

Bu cynnydd o 11.5% o gymharu â’r un cyfnod y llynedd, a thŷ’n costio £218,783 ar gyfartaledd, yn ôl Cymdeithas Adeiladu’r Principality.

Mae’r twf yn golygu bod cynnydd o 10% neu fwy wedi bod mewn prisiau am dri chwarter yn olynol – y cynnydd cryfaf ers canol y 2000au.

O gymharu ag ail chwarter 2021, bu cynnydd o 1.4% mewn prisiau tai ar gyfartaledd.

Mae’r data diweddaraf hefyd yn dangos bod cynnydd o 52% mewn gwerthiannau rhwng trydydd chwarter 2020 a thrydydd chwarter 2021.

Dros y penwythnos, daeth dros fil o bobol ynghyd ar risiau’r Senedd i alw am “drawsnewid y gyfundrefn dai” mewn rali Nid yw Cymru ar Werth.

Rali Nid Yw Cymru Ar Werth
Rali Nid Yw Cymru Ar Werth

O ardal i ardal

Mae’r darlun yn fwy cymhleth o ardal i ardal, meddai Principality, ond roedd cynnydd mewn prisiau ymhob awdurdod lleol dros y deuddeg mis diwethaf o gymharu â’r deuddeg mis blaenorol.

Roedd y cynnydd blynyddol yn fwy na 15% yn naw o’r awdurdodau lleol, gyda’r cynnydd uchaf ym Mlaenau Gwent (22.5%) a Wrecsam (cynnydd o 20.8%).

Bu cynnydd blynyddol uchel yng Nghaerdydd (16.5%), Merthyr Tudful (17.2%), Rhondda Cynon Taf (17.3%), Bro Morgannwg (18.2%), Abertawe (15.3%), Sir Gaerfyrddin (17%), a Chonwy (14.1%).

Gwelodd Gwynedd, Sir Benfro a Cheredigion gynnydd o oddeutu 10% yr un hefyd.

Er hynny, am y tro cyntaf ers dros flwyddyn, gwelodd mwy o awdurdodau ostyngiad mewn prisiau (12 awdurdod) na chynnydd.

Yng Nghasnewydd y bu’r cynnydd mwyaf dros y trydydd chwarter, gyda phrisiau’n codi 10% o gymharu â’r chwarter blaenorol.

Mae nifer yr awdurdodau sy’n cofnodi’u prisiau uchaf erioed wedi gostwng o gymharu â dechrau’r flwyddyn.

Roedd pris cyfartalog tŷ ar ei uchaf erioed yng Nghasnewydd, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin a Blaenau Gwent ym mis Medi 2021.

Pris tŷ yng Nghymru, ar gyfartaledd, dros y ddwy flynedd ddiwethaf | Cymdeithas Adeiladu’r Principality

‘Gwell na’r disgwyl’

Dywedodd Tom Denman, Prif Swyddog Ariannol Cymdeithas Adeiladu’r Principality, fod marchnad dai Cymru, fel mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, wedi “perfformio’n well na’r disgwyliadau” eleni.

“Mae’r galw wedi bod yn uwch ac yn fwy gwydn nag yr oedd llawer wedi’i ddisgwyl, ac er bod y cymorth yn y farchnad ar ffurf yr egwyl mewn Treth Trafodion Tir a thaliadau ffyrlo wedi dod i ben nawr, mae graddfa’r galw sydd wedi cronni wedi bod mor fawr, ac wedi’i gynorthwyo gan gynnydd mewn cynilion yn sgil y cyfnod clo a chyfraddau morgais isel parhaus, mae’r farchnad wedi parhau i dyfu,” meddai.

“Wrth fynd mewn i’r pedwerydd chwarter a 2022, rydyn ni’n gallu gweld bod disgwyliadau prisiau wedi gostwng a chyfradd y twf wedi arafu.

“Yn amlwg, mae yna ddisgwyl y bydd cyfraddau llog yn codi yn fuan, er y bydd hynny ar sail gymedrol, ac y bydd hyn yn dal i gael effaith ar sawl aelwyd, yn bennaf rhai sydd wrthi’n prynu ac yn symud tai.”

Argyfwng diwylliannol sy’n gofyn am sylw penodol a gweithredu ar frys

Huw Prys Jones

Mae’r argyfwng tai yng nghadarnleoedd y Gymraeg yn gofyn am gamau ymarferol i’w cymryd ar frys –  nid breuddwydion ofer am ddymchwel cyfalafiaeth

Penwythnos o ralïau ail gartrefi yng Nghymru a Chernyw

Mae rali ar y gweill yn Porthleven drannoeth y rali yng Nghaerdydd