Mae dynes 23 oed wedi’i charcharu am bedair blynedd ar ôl pledio’n euog i gyhuddiadau yn dilyn marwolaeth babi chwe mis oed mewn gwrthdrawiad.

Aeth Lucy Dyer o Lanelli gerbron Llys y Goron Abertawe heddiw (dydd Llun, Tachwedd 15).

Plediodd hi’n euog i gyhuddiad o ladd Eva Maria Nichifor wrth yfed a gyrru ar Hydref 8.

Roedd hi a’r babi mewn dau gar gwahanol.

Dywedodd yr erlynydd Carina Hughes fod Lucy Dyer wedi bod mewn hwyliau da mewn tafarn a bu’n rhaid i staff y drws ei stopio rhag mynd â’i diod gyda hi.

“Pan gafodd wybod na allai gymryd y ddiod o’r dafarn fe wnaeth hi ei yfed i gyd a rhoi’r gwydr gwag i staff y drws,” meddai.

“Er gwaethaf yfed aeth y diffynnydd i mewn i’w BMW,” ychwanegodd.

“Sgrechian am help”

Dywedodd tystion wrth yr heddlu eu bod yn gweld Lucy Dyer yn gyrru ar gyflymder ac na wnaeth hi arafu ar gyffordd lle’r oedd hi fod i ildio.

Ar ôl gwrthdro â char y teulu, rhedodd Lucy Dyer i lawr y ffordd cyn dychwelyd at ei chefnder a oedd wedi bod yn sedd y teithiwr pan ddigwyddodd y ddamwain.

“Fe wnaeth yr effaith achosi i Carmen (mam Eva Marie) adael y car gan ddal ei babi a sgrechian am help.

“Roedd tystion wedi galw’r gwasanaethau brys ac fe wnaeth teulu sy’n byw ar y stryd helpu.

“Fe wnaeth Miss Evans ddal gafael ar y babi oedd yn amlwg wedi cael anaf i’w ben.”

Cyrhaeddodd yr heddlu’r safle a mynd at Lucy Dyer a ddywedodd eu bod yn arogli fel alcohol.

Datgelodd prawf yn ddiweddarach ei bod bron ddwywaith dros y terfyn yfed a gyrru cyfreithiol.

Bu Lucy Dyer yn gofyn i swyddogion: “A wnes i ladd y babi?” a dweud nad oedd hi “erioed wedi bwriadu brifo neb”.

Cafodd Eva Marie ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru ond nid oedd llawfeddygon yn gallu ei hachub a bu farw yn yr uned gofal dwys (ICU) y diwrnod canlynol am 2.20yh.

Roedd y teulu, oedd wedi symud o Rwmania i’r Deyrnas Unedig dair blynedd yn ôl, wedi bod ar eu ffordd i gael tecawê gyda’i gilydd ar ôl i’r tad, Florin, orffen ei shifft fel gyrrwr Deliveroo pan ddigwyddodd y ddamwain.

“Cyfiawnder”

Mewn datganiad gafodd ei ddarllen i’r llys, dywedodd y pâr priod: “Fe ddaethom i’r wlad hon i sicrhau bywyd gwell i’n teulu ac yn y diwedd fe wnaeth ei rwygo ar wahân.

“Ers i’r drasiedi hon ddigwydd, nid ydym yn gallu cysgu.

“Yn y tŷ lle rydyn ni’n byw allwn ni ddim gweld ein lle yno heb ein Eva bach oherwydd ym mhob man rydyn ni’n edrych, dim ond atgofion ohoni hi rydyn ni’n eu gweld, pa mor hapus oedd hi gyda ni, a sut ddaru ni ddysgu beth mae gwir hapusrwydd yn ei olygu gyda hi.

“Yr hyn rydyn ni eisiau yw cyfiawnder i’n babi gafodd ei gymryd oddi wrthym ni’n rhy fuan.”

“Euogrwydd”

“Hoffwn ddweud pa mor wirioneddol sori ydw i i’r teulu am eu colled drasig,” meddai Lucy Dyer.

“Rwy’n wirioneddol dorcalonnus ac yn ddigalon.

“Bydd yr euogrwydd yn aros am byth.

“Pe bai gen i’r pŵer i droi’r cloc yn ôl, fe fyddwn i.

“Alla i ddim dychmygu’r holl boen y mae’r teulu’n mynd drwyddo.

“Rwy’n berson gofalgar ac ni fyddaf byth yn gallu anghofio’r drasiedi hon, ac rwy’n gwybod na fydd y teulu chwaith.

“Mae’n ddrwg iawn gennyf, a gobeithio y bydd y teulu, un diwrnod drwy’r holl boen, yn gallu maddau i mi.”