Mae lefel bygythiad y Deyrnas Unedig wedi codi o “sylweddol” i “ddifrifol” yn dilyn yr ymosodiad brawychol yn Lerpwl.
“Mae JTAC [canolfan dadansoddi brawychiaeth] nawr yn codi lefel bygythiad y Deyrnas Unedig o sylweddol i ddifrifol,” meddai’r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel wrth ddarlledwyr.
“Ac mae rheswm am hynny, a’r rheswm hwnnw yw oherwydd mai’r hyn welson ni ddoe yw’r ail ddigwyddiad o fewn mis.”
Cefndir
Mae pedwar dyn wedi cael eu harestio dan y Ddeddf Frawychiaeth ar ôl i gar ffrwydro tu allan i ysbyty, gan ladd un person ac anafu un arall.
Cafodd Heddlu Glannau Merswy eu galw i Ysbyty Menywod Lerpwl am 10:59 ddoe (dydd Sul, Tachwedd 14), yn dilyn adroddiadau bod tacsi wedi ffrwydro.
Dywedodd Heddlu Gwrthfrawychiaeth Gogledd Orllewin Lloegr fod tri dyn – sy’n 29, 26 a 21 oed – wedi cael eu cadw yn y ddalfa yn ardal Kensington o’r ddinas ar ôl cael eu harestio gan y Ddeddf Frawychiaeth mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Daeth cadarnhad yn ddiweddarach fod dyn arall, sy’n 20 oed, hefyd wedi cael ei arestio.
Cafodd dyn a oedd yn teithio yn y tacsi ei ladd yn y fan a’r lle.
Mae’r gyrrwr, sydd hefyd yn ddyn, mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty ar hyn o bryd.
Dywed yr heddlu gwrthfrawychiaeth eu bod nhw bellach yn trin y digwyddiad fel ymosodiad brawychol, ac yn gweithio’n agos gyda Heddlu Glannau Merswy.