Bydd dros 40 o grwpiau sy’n ymgyrchu dros yr iaith Wyddeleg yn llofnodi llythyr yn galw am fynd â Deddf Iaith Wyddeleg drwy San Steffan “ar unwaith”.
Fe fydd y grwpiau yn dod ynghyd yn ninas Belffast fory (dydd Mawrth, Tachwedd 16) er mwyn llofnodi’r llythyr at Brandon Lewis, Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon yn San Steffan, a bydd copi llawn o’r llythyr yn cael ei gyhoeddi yn The Irish News ddydd Mercher (Tachwedd 17).
Roedd disgwyl i’r ddeddf ar gyfer yr iaith Wyddeleg gael ei chyflwyno yn San Steffan ym mis Hydref.
Fis Mehefin, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig addo pasio’r ddeddfwriaeth yn ystod yr hydref, pe na bai cynnydd ar y mater yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon yn Stormont.
Bryd hynny, bu bron i Sinn Féin beidio ag enwebu dirprwy Brif Weinidog yn sgil ffrae rhyngddyn nhw a’r DUP, ac roedd Stormont ar fin wynebu argyfwng.
Ond fe wnaeth yr addewid gan Brandon Lewis am Ddeddf Iaith atal hynny rhag digwydd.
Cefndir
Fis Ionawr y llynedd, fe wnaeth y DUP a Sinn Féin gytuno i rannu pwerau yn Stormont eto, ar ôl tair blynedd o fethu â dod i gytundeb.
Roedd Sinn Féin wedi dweud na fydden nhw’n cydweithio â’r DUP eto, oni bai bod deddfwriaeth ar gyfer yr iaith Wyddeleg yn cael ei phasio.
Er bod ffrae rhwng y ddwy blaid yn bygwth y sefydliad ers tro, cododd hynny i’w anterth dros yr haf pan wnaeth y Prif Weinidog, Arlene Foster, gamu o’r neilltu.
Yn ôl natur y swydd, os yw’r prif weinidog yn ymddiswyddo, yna mae’n rhaid i’r dirprwy adael ei swydd hefyd, felly bu’n rhaid i Michelle O’Neill gamu o’r neilltu.
Fe wnaeth Sinn Féin wrthod enwebu Michelle O’Neil eto nes bod y DUP yn rhoi sicrwydd y byddai’n bwrw ati i gyflwyno deddfwriaeth yn ymwneud â’r iaith, ac am nad oedd Edwin Poots, arweinydd newydd y DUP ar y pryd, yn fodlon rhoi sicrwydd ynghylch y ddeddfwriaeth, gofynnodd Sinn Féin i San Steffan ymyrryd yn y ffrae.
Ddiwedd mis Hydref, dywedodd Michelle O’Neill, y Dirprwy Brif Weinidog, fod “rhaid” i San Steffan gyflwyno’r ddeddfwriaeth.
Mae’r ddeddfwriaeth yn cynnwys creu comisiynwyr iaith ar gyfer y Wyddeleg a Sgots Ulster, yn ogystal â chreu Swyddfa Hunaniaeth a Mynegiant Diwylliannol.