Mae arbenigwyr risgiau cefn gwlad yn annog ffermwyr i gymryd gofal a phwyll yn dilyn cynnydd mewn marwolaethau amaethyddol.
Fe gyhoeddodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ffigyrau yn dangos bod 41 o bobol wedi eu lladd yng ngwledydd Prydain yn 2020/21 o ganlyniad i ffermio neu weithredoedd eraill sy’n ymwneud ag amaeth.
Roedd hynny ddwywaith y nifer a gafodd eu cofnodi yn y flwyddyn flaenorol, gyda saith o’r marwolaethau eleni yn digwydd yng Nghymru.
Ymhlith yr achosion mwyaf cyffredin o anafiadau angheuol yn y pum mlynedd diwethaf mae cwympo i farwolaeth a gwrthdrawiadau gyda cherbydau, peiriannau neu wrthrych arall.
Mae achosion o ladd gan anifeiliaid hefyd wedi dod i’r amlwg yn y flwyddyn ddiwethaf, ar ôl i ŵr 57 oed a’i fab 19 oed ddioddef ymosodiad gan ychen-yr-afon (water buffalo).
Rhybudd
Mae Alex Cormack o gwmni Lycetts Risk Management Services yn galw ar ffermwyr i “feddwl dwywaith” wrth gyflawni eu gwaith o ddydd i ddydd.
“Mae cyfraddau anafiadau angheuol mewn amaeth yn parhau i fod yn ddrwg o uchel, sy’n ei wneud y sector diwydiannol mwyaf peryglus,” meddai.
“Mae ychydig dros un mewn cant o’n haelodau yn gweithio mewn amaeth, ond roedd y sector yn gyfrifol am un mewn pedwar o anafiadau angheuol a gafodd eu cofnodi eleni.
“Rydyn ni’n gwybod bod ffermwyr yn wynebu myrdd o beryglon posib, gan gynnwys cysylltiad â pheiriannau a cherbydau, cemegau, a da byw, yn ogystal â gweithio ar uchder. Mae’r gwaith ymestynnol, unig a di-baid sy’n gysylltiedig ag amaeth yn cynyddu’r risgiau i ffermwyr ymhellach.
“Ond rydyn ni’n gweld yr un achosion o anafiadau angheuol yn codi dro ar ôl tro. Rhaid newid agweddau at risg er mwyn newid y naratif hwn.
“Wrth gwrs, bydd rhai o’r marwolaethau hyn o ganlyniad i ddamweiniau anffodus ac annisgwyl. Fodd bynnag, trwy gyflawni gweithredoedd yn ofalus, gellir lleihau’r risg yn fawr.
“Mae’n bwysig nodi bod aelodau teulu sy’n gweithio ac yn byw ar y fferm hefyd mewn perygl, ac o’r saith aelod o’r cyhoedd gafodd eu lladd yn 2020/21, roedd dau ohonynt yn blant.
“Gall penderfyniad chwim olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw, felly mae’n hanfodol bwysig bod ffermwyr yn stopio, yn meddwl ddwywaith ac yn trin pob tasg gydag iechyd a diogelwch ar flaen eu meddyliau.”