Mae tri o bobol yn yr ysbyty yn dilyn tân mewn tŷ yn Sir Ddinbych.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i eiddo ym mhentref Pandy ger Llangollen toc ar ôl 4.15yp.

Cafodd y bobol sy’n byw yno eu hachub gan gymydog a’u cludo i’r ysbyty.

Roedd y gwasanaeth tân wedi gadael y safle erbyn heddiw (dydd Llun, Tachwedd 15) ar ôl i ymchwiliad gael ei gynnal.

Diolch

A’r digwyddiad ar y gweill, roedd chwech o griwiau yn bresennol, yn cynnwys dynion tân o Langollen, Wrecsam a’r Bala.

Mae Steve Houghton, swyddog tân lleol, wedi diolch i’r criwiau a’r gymuned leol am eu cymorth.

“Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’r gymuned leol am gefnogi gwaith gwych ein criwiau yn taclo’r tân,” meddai.

“Fel rhan o’n gweithredoedd, roedd rhaid gosod pwmp i gael dŵr o afon Ceiriog oherwydd lleoliad y tân.

“Fe wnaeth trigolion lleol helpu ni gyda’r trefniadau hyn, a alluogodd ddynion tân i gael mynediad at y dŵr i daclo’r tân.

Yr olygfa fore heddiw (dydd Llun, 15 Tachwedd)

“Roedd hwn yn dân difrifol mewn adeilad mawr, ac roedd ein dynion tân wedi gweithio’n dda mewn amgylchiadau anodd.

“Roedd y preswylwyr allan o’r tŷ erbyn i ni gyrraedd, ac mae ein meddyliau gyda nhw a’u teuluoedd yn ystod yr amser gofidus hwn.

“Rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw’n cael gwellhad llawn.”

Gofal yn y gegin

Fe alwodd y swyddog ar bobol i gymryd gofal wrth iddyn nhw goginio.

“Mae’r difrod trychinebus yn dangos pa mor ddinistriol mae tân yn gallu bod,” meddai Steve Houghton.

“Dro ar ôl tro, rydyn ni’n mynychu tannau mewn tai sydd wedi dechrau yn y gegin.

“Mae hi mor anodd anghofio am eich coginio, yn enwedig os ydych chi wedi blino, wedi eich dargyfeirio, neu wedi bod yn yfed.

“Mae ein neges yn glir – peidiwch byth â throi eich cefn ar eich coginio, hyd yn oed am funud. Gall gadael unrhyw goginio heb oruchwyliaeth am gyfnod o amser gael canlyniadau dinistriol.

“Mae larymau mwg yn achub bywydau – mae’r rhybudd cynnar sy’n cael ei roi gan larwm yn darparu’r munudau tyngedfennol i’ch helpu chi adael heb niwed.

“Rwy’n gofyn i bawb i ystyried yr henoed neu deulu a chymdogion bregus, a sicrhau eu bod nhw’n ddiogel hefyd.”