Bydd pawb dros 40 oed yn cael cynnig trydydd dos o’r brechlyn Covid-19, ar ôl i Lywodraeth Cymru dderbyn argymhelliad y Cydbwyllgor ar Imiwnedd a Brechu (JCVI).
Ar hyn o bryd, mae’r rhaglen i roi brechlynnau atgyfnerthu yn cynnwys pawb dros 50 oed, gweithwyr iechyd a gofal, preswylwyr cartrefi gofal, a phobol sy’n agored i niwed clinigol.
Yn ogystal, mae’r JCVI wedi cynghori y dylid cynnig ail ddosys o’r brechlyn i bobol ifanc 16 ac 17 oed, ac mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y cyngor hwnnw hefyd.
Fe fydd y Llywodraeth yn gweithio gyda Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru i weithredu ar y penderfyniadau hyn, meddai Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru, mewn datganiad.
“Hoffwn ddiolch i’r JCVI am eu hystyriaethau a’u cyngor ac am gymryd gofal i ffurfio barn gytbwys,” meddai Eluned Morgan.
“Ein bwriad, a hynny ers dechrau’r pandemig, yw dilyn y dystiolaeth glinigol a gwyddonol ac felly rydym yn derbyn cyngor y JCVI.
“Byddwn yn gweithio gyda Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru i weithredu ar y cyngor hwn, ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau.”
Brechlynnau atgyfnerthu
Yn ystod cynhadledd i’r wasg heddiw (dydd Llun, Tachwedd 15), dywedodd yr Athro Wei Shen Lim, cadeirydd y JCVI, y dylai’r rhaglen gynnig brechlynnau Pfizer/BioNTech neu Moderna i bawb dros 40 oed.
Does dim pryderon diogelwch newydd wedi’u hadnabod yn gysylltiedig â’r dosys atgyfnerthu, ac mae’r buddion llawer iawn mwy na’r peryglon o gael y brechlyn, meddai Dr June Raine, prif weithredwr yr Asiantaeth Rheoleiddio Cynnyrch Meddyginiaethol a Gofal Iechyd.
Mae dosys atgyfnerthu yn helpu i stopio 93% o achosion Covid symptomatig, a hyd yn oed mwy o dderbyniadau i’r ysbyty â Covid, meddai’r Athro Wei Shen Lim.
Bydd y JCVI yn gwneud penderfyniad ynglŷn â chynnig brechlyn atgyfnerthu i bobol rhwng 18 a 39 oed yn nes ymlaen, pan ddaw rhagor o dystiolaeth i law.
Gan fod y rhan fwyaf o’r bobol yn y grŵp oedran hwn wedi derbyn eu hail ddos ar ddiwedd yr haf neu ddechrau’r hydref bydd ganddyn nhw lefel uchel o amddiffyniad yn erbyn Covid-19 yn dal i fod, meddai Eluned Morgan.
Pobol 16 ac 17 oed
Mae hi’n ddiogel i bobol ifanc 16 ac 17 oed dderbyn ail ddos o frechlyn Covid, yn ôl Dr June Raine.
A bydd rhoi ail ddos i blant 16 ac 17 oed yn cynnig amddiffyniad iddyn nhw dros y Nadolig a’r gaeaf, a thu hwnt, meddai’r Athro Wei Shen Lim.
“Rydyn ni wedi adolygu gwybodaeth ddiweddar o ran diogelwch a buddion ail ddos, ac rydyn ni’n cynghori bod pobol 16 ac 17 oed sydd wedi derbyn dos cyntaf o frechlyn Pfizer/BioNTech yn cael cynnig ail ddos o frechlyn Pfizer/BioNTech,” meddai.
“Er mwyn atgoffa, mae’r dos cyntaf yn cynnig lefel uchaf o amddiffyniad yn erbyn afiechyd difrifol. Ac rydyn ni’n gwybod fod y lefel uchel yna o amddiffyniad yn parhau am o leiaf 12 i 16 wythnos.
“Mae’r ail ddos yn atgyfnerthu’r amddiffyniad hwnnw gan y dos cyntaf fodd bynnag, ac mae’n bwysig er mwyn ymestyn cyfnod yr amddiffyniad.
“Nid yn unig ar gyfer misoedd y gaeaf a’r Nadolig, ond rydyn ni’n edrych ar 2022 a thu hwnt.”
‘Blaenoriaethu’r brechu’
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r cyhoeddiad, gan ddweud y dylai brechu fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
“Mae’r newyddion hyn, sy’n cael ei groesawu’n fawr gan y Ceidwadwyr Cymreig, yn arwydd o hyder pellach yn effeithlonrwydd y brechlyn ac yn dyst i lwyddiant y rhaglen frechu dros y Deyrnas Unedig,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Er ei fod yn beth cadarnhaol bod pobol ifanc yn eu harddegau hwyr am gael eu hail ddos, rhaid bod rhoi’r brechlynnau atgyfnerthu i bobol yn flaenoriaeth i weinidogion Llafur gan mai hynny, nid pasbortau brechu aneffeithiol a gormesol, sy’n amddiffyn cymdeithas.”
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd wedi ailadrodd eu galwadau i’w gwneud hi’n bosib i bobol allu cerdded mewn i ganolfannau brechu heb apwyntiad.