Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig edrych ar effaith cynyddu’r Yswiriant Gwladol ar swyddi, yn ôl y Ffederasiwn Busnesau Bach.
Fe fydd yr Yswiriant Gwladol yn codi 1.25% mewn ychydig fisoedd, ac mae adroddiad gan y Mynegai Busnesau Bach yn dangos bod gan fusnesau lai o fwriad cyflogi gweithwyr newydd eleni o gymharu â chyn y pandemig.
Mae’r adroddiad, a gafodd ei gyhoeddi heddiw (dydd Llun, Tachwedd 15) yn dangos bod 14% o fusnesau bach wedi lleihau nifer eu gweithwyr yn nhrydydd chwarter 2021, er bod ffyrlo dal mewn grym.
Roedd hynny’n gynnydd o 2% o gymharu â’r un cyfnod yn 2019, cyn Covid.
Allan o’r 1,400 busnes wnaeth ymateb i arolwg y Mynegai Busnesau Bach, dydi’r mwyafrif helaeth (82%) ddim yn bwriadu cynyddu nifer eu staff yn ystod y chwarter hwn.
Mae hynny’n gynnydd o 3% ers ail chwarter 2021, pan oedd y cyfnod clo yn dechrau llacio a’r economi yn ailagor.
Dywedodd 41% o fusnesau eu bod nhw wedi gweld gostyngiad diweddar mewn gwerthiannau rhyngwladol, o gymharu â 31% a welodd ostyngiad yn yr un cyfnod yn 2019, a hynny wedi Brexit, cynnydd mewn costau postio, a phroblemau parhaus gyda’r gadwyn gyflenwi.
Dim ond 21% sy’n hollol barod i wiriadau mewnforio gael eu cyflwyno flwyddyn nesaf, a dywedodd yr un ganran eu bod nhw wedi stopio allforio nwyddau i’r Undeb Ewropeaidd yn barhaol neu dros dro.
Roedd 7% arall yn ystyried gwneud yr un fath, meddai’r arolwg.
‘Lle mae’r dadansoddiad?’
Dywedodd Mike Cherry, Cadeirydd Cenedlaethol y Ffederasiwn Busnesau Bach fod hyder busnesau bach wedi “chwyddo” ddechrau’r flwyddyn, ond bod hynny wedi diflannu yn sgil y cyhoeddiad am gynnydd mewn Yswiriant Gwladol.
“Yr hyn rydyn ni’n pendroni yw: lle mae dadansoddiad y Llywodraeth ynghylch yr hyn allai’r cynnydd mewn trethi fis Ebrill ei olygu i ddiweithdra?” meddai.
“Bydd y cynnydd mewn trethi yn digwydd yr un pryd â’r cynnydd yn y cyflog byw, ac yn ystod cynnydd mewn chwyddiant ac amhariadau i’r gadwyn gyflenwi, felly rydyn ni angen gwybod sut mae’r Llywodraeth yn dadansoddi sgil effeithiau posib.
“Fe wnaethon ni greu ein hamcangyfrifon ein hunain a darganfod y gallai’r cynnydd mewn trethi swyddi achosi i 50,000 yn fwy o bobol golli eu swyddi.
“Rydyn ni’n gofyn i’r Trysorlys gyhoeddi eu rhagolygon eu hunain.
“Gyda bwriadau cwmnïau bach i gyflogi gweithwyr newydd wedi gostwng rydyn ni agen gweld y Llywodraeth yn cynyddu’r Lwfans Cyflogaeth er mwyn helpu busnesau cymunedol i recriwtio, cadw staff ac ailhyfforddi dros y misoedd nesaf.
“Yn ogystal, mae gormod o allforwyr bach – yn aml ein cwmnïau mwy arloesol a phroffidiol – yn cael trafferth gyda gwaith papur a pharatoadau ar gyfer gwiriadau mewnforio.
“Yn hynny o beth, dylai gwneuthurwyr polisïau ailwampio ac ail-lansio’r Gronfa Cefnogaeth Brexit i Fusnesau Bach a Chanolig, ehangu’r gofynion ar gyfer bod yn gymwys, a gwneud dyddiadau cau ar gyfer gwneud ceisiadau yn fwy realistig.”