Bu farw tad a mab ar ôl i ychen-yr-afon (water buffalo) ymosod arnynt ar eu fferm yn Sir Fynwy, clywodd cwest.

Dioddefodd Ralph Jump, 57, a’i fab Peter, 19, anafiadau marwol pan ymosodwyd arnynt yn ogystal â’r ferch Isabel, 22, a oroesodd y digwyddiad yn y tyddyn naw erw yng Ngwehelog, ger Brynbuga.

Clywodd Llys Crwner Gwent yng Nghasnewydd ddydd Iau (17 Mehefin) fod y teulu’n cadw ychen-yr-afon i werthu sebon gan ddefnyddio eu llaeth, ond bod y tarw pedair oed – o’r enw Yolo – wedi cymryd yn erbyn Peter.

Dywedodd gwraig Ralph Jump, Josephine, fod y teulu wedi prynu dwy fuwch ac ychen-yr-afon yn 2016, ac nid oedd unrhyw broblemau yn ystod y ddwy flynedd gyntaf.

Ond roedden nhw wedi sylwi’n ddiweddarach nad oedd Yolo “yn hoffi Peter” ac y byddai yn ei “wylio”.

Gwthio

“Nid oedd y tarw byth yn ymddwyn fel hyn gyda mi na Ralph, ond byddem yn cadw Peter oddi wrtho,” meddai.

Roedd Ralph Jump yng nghegin y teulu ychydig cyn 3 o’r gloch ar 5 Mai’r llynedd pan welodd ei wraig fod cylch gwair yn y cae y tu allan wedi cael ei wthio yn erbyn ffens drydanol a gofynnodd i’w gŵr ei symud.

Dywedodd mewn datganiad ei bod yn paratoi bwyd pan ddaeth Isabel i mewn i’r gegin yn gweiddi bod Yolo yn “gwthio dad i lawr y cae”.

“Roeddwn i’n gallu ei weld yn cael ei rolio i lawr y bryn a gallwn glywed ei fod yn grogi.

“Fe wnes i fynd rhyngddynt ond roedd yn dal i geisio dod yn ôl ato.

“Roedd yn grogi ac yn edrych yn anymwybodol,” meddai.

Ymosod

Dywedodd Josephine Jump fod ei mab, Peter, oedd adref o’r brifysgol oherwydd y pandemig coronafeirws, wedi cyrraedd y cae gan ddal baton haearn i “daro’r tarw i ffwrdd” oddi wrth ei dad.

“Yn sydyn reit, dechreuodd y tarw fynd am Peter, a chafodd afael arno,” meddai.

“Doeddwn i ddim yn gallu ei glywed ac roeddwn i’n gwybod ei fod wedi marw,” meddai.

Dywedodd Josephine fod y tarw wedi dechrau ymosod ar ei merch wedyn, a oedd hefyd yn sefyll yn y cae wrth iddi ffonio’r gwasanaethau brys.

Anafiadau

Cafodd Peter ei gludo i’r ysbyty gan ambiwlans awyr, ac roedd ganddo anafiadau “difrifol”, tra bod ei dad yn amlwg yn farw yn y fan a’r lle a chanfuwyd yn ddiweddarach ei fod wedi dioddef nifer o anafiadau i’w frest.

Ceisiodd feddygon achub Peter yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ond roedd ganddo waed yn ei ysgyfaint a bu farw yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

Rhyddhawyd Isabel o’r ysbyty ar ôl cael anaf difrifol i’w choes.

Saethodd heddlu arfog yr ych yr afon yn farw.