Bydd Cymdeithas yr Iaith yn galw am “drawsnewidiad y gyfundrefn dai” mewn rali o flaen y Senedd heddiw (dydd Sadwrn, 13 Tachwedd).

Mae disgwyl i gannoedd ddod ynghyd yn y rali ar risiau’r Senedd lle bydd Meri Huws, Rhys Tudur o’r ymgyrch Hawl i Fyw Adra ac Ali Yassine yn annerch y dorf.

Bydd yr ymgyrchwyr yn galw am Ddeddf Eiddo i reoli prisiau tai a rhent fel eu bod yn fforddiadwy i bobol sy’n byw ar incwm lleol.

“Anghyfiawnder”

Yn siarad cyn y rali, dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol Jones:

“Mae pobol yn gweld anghyfiawnder y system tai a chynllunio yn eu bywydau bob dydd, ymhob rhan o’r wlad.

“Nid yw’n iawn fod yna rai gyda mwy nag un tŷ, tra bod eraill yn ddigartref.

“Mae’r dystiolaeth yn glir — boed hynny’r bobl sy’n gorfod dewis rhwng talu am wres neu rent; y bobl ifanc sy’n gorfod gadael eu cymuned i allu fforddio cartref; neu’r bobl sy’n gweld bywyd eu cymunedau yn edwino o ganlyniad i dai moethus sy’n aros yn wag am ran fwyaf y flwyddyn.

“Y farchnad rydd yw craidd y problemau Cymru gyfan hyn, sy’n amlygu eu hunain mewn amryw o ffyrdd yn ein cymunedau.

“Ond canlyniad penderfyniadau gwleidyddol yw hyn, ac mae modd gwneud pethau’n wahanol.

“Rydyn ni wedi ennill o’r blaen, ac os tynnwn ni ynghyd fel cymunedau ac ymgyrchwn ni’n galed, gwelwn ni, yn hwyr neu’n hwyrach, gyfundrefn tai ac eiddo wedi’i thrawsnewid.

“Gyda’n gilydd mae’r grym gyda ni.”

Cefnogaeth Plaid Cymru

Mewn neges o gefnogaeth cyn y rali, dywedodd Mabon ap Gwynfor AS, llefarydd Plaid Cymru ar dai a chynllunio:

“Mae Plaid Cymru wedi bod yn gyson dros ddegawdau lawer yn ein galwadau ar Lywodraeth i gymryd camau i ddatrys yr argyfwng tai – gyda ail gartrefi ond yn un rhan o greisis ehangach.

“Nid argyfwng sy’n wynebu ychydig o gymunedau yw’r broblem o fforddiadwyedd a phobl yn cael eu prisio allan o’u cymunedau – mae hwn yn argyfwng cenedlaethol, ac mae angen cymryd camau i reoli pris tai a rhenti fel eu bod yn adlewyrchu’r economi leol yn well. Mae cymunedau yng Nghaerdydd, Gwent, Wrecsam, yn ogystal ag arfordir gorllewin Cymru yn galw am ymyrraeth a hynny ar frys.”

Argyfwng diwylliannol sy’n gofyn am sylw penodol a gweithredu ar frys

Huw Prys Jones

Mae’r argyfwng tai yng nghadarnleoedd y Gymraeg yn gofyn am gamau ymarferol i’w cymryd ar frys –  nid breuddwydion ofer am ddymchwel cyfalafiaeth