Mae llystad bachgen pump oed gafodd ei ganfod yn farw mewn afon wedi gwadu ei lofruddio.

Darganfuwyd corff Logan Mwangi yn Afon Ogwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 31 Gorffennaf.

Fe blediodd John Cole, 39 oed o Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr, yn ddieuog i ladd Logan mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener (12 Tachwedd).

Plediodd Cole yn euog i ail gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Fe ymddangosodd mam Logan, Angharad Williamson, 30, hefyd o flaen Mrs Ustus Nerys Jefford a phlediodd yn ddieuog i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Roedd Angharad Williamson, a safodd yn y doc wrth ymyl John Cole, yn crio wrth i fanylion y drosedd gael eu darllen, gan gynnwys symud corff Logan i ardal o’r afon ger Parc Pandy, tynnu ei ddillad, golchi dillad gwely oedd yn llawn gwaed, a gwneud adroddiad person coll ffug i’r heddlu.

Mae hi hefyd wedi’i chyhuddo o lofruddiaeth ond ni wnaeth gyflwyno ple i’r cyhuddiad hwnnw yn ystod y gwrandawiad.

Ymddangosodd bachgen 14 oed, na ellir ei adnabod oherwydd ei oedran, drwy gyswllt fideo o ystafell arall yn adeilad y llys.

Plediodd yn ddieuog i lofruddiaeth Logan a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Pennwyd dyddiad prawf dros dro newydd ar gyfer Chwefror 14, 2022.