Mae Cyngor Gwynedd wedi ymddiheuro am gynnwys llythyr at rieni Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes, oedd yn awgrymu na fyddai plant oedd mewn dyled o fwy na cheiniog i’r ysgol am ginio, yn cael eu bwydo.

Erbyn hyn mae’r cyngor sir yn dweud “nad oes unrhyw blentyn ar draws y sir yn wynebu diwrnod heb ginio yn yr ysgol”.

Fe gafodd cynnwys y llythyr gan bennaeth yr ysgol, Neil Foden, sylw ar draws Prydain, a’r feirniadu yn hallt ar gyfryngau cymdeithasol gan sawl un gan gynnwys y pêl-droediwr Marcus Rashford.

Roedd cogydd yr ysgol wedi ei siarsio i beidio rhoi bwyd i blant o 22 Tachwedd ymlaen, oni bai bod eu rhieni wedi clirio unrhyw ddyledion.

Dywedodd un rhiant nad bai’r plant oedd unrhyw ddyledion, ac “efallai mai’r cinio ysgol fydd yr unig bryd y bydden nhw’r ei gael y diwrnod hwnnw”.

Ymateb i’r feirniadaeth

Wrth ymateb i’r feirniadaeth, dywedodd y pennaeth Neil Foden eu bod nhw’n deall bod llawer o deuluoedd wedi profi anawsterau ariannol yn ystod y pandemig, ond bod rhaid i’r ysgol dalu am unrhyw ddiffygion yn y gyllideb.

“Mae prydau ysgol yn cael eu darparu gan Gyngor Gwynedd trwy gytundeb lefel gwasanaeth gyda’r ysgol. Rhaid i unrhyw golledion neu ddiffygion fod yn rhan o gyllideb yr ysgol,” meddai.

“Fe wnaethon ni gysylltu â’r Cyngor i fynegi pryder bod dyled cronnus o dros £1,800 wedi cael ei chodi gan ryw 70 o ddisgyblion.

“Roedd gan naw rhiant ddyled o dros £50, ac roedd gan dri ohonynt dros £100.

“Cafodd y rhieni oedd mewn dyled eu tecstio yn wythnosol ac yn y pen draw, anfonwyd llythyrau ond, yn y rhan fwyaf o achosion, ni chafwyd ymateb ac mewn sawl un, cynyddodd y dyledion.

“Cafodd y dull a gymerwyd ei argymell gan y Cyngor ond mae’n un rwy’n ei gefnogi. Mae geiriad y llythyr yn adlewyrchu’r dull y gwnaethom gytuno arno. Mae rhai cydweithwyr sydd â phlant mewn ysgolion eraill yn dweud wrthyf fod eu hysgolion yn gweithredu polisi tebyg.

“Mae disgyblion o’r teuluoedd mwyaf difreintiedig yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac maen nhw’n cael eu credydu’n awtomatig gyda lwfans dyddiol.

“Dylai unrhyw riant sydd mewn anhawster ariannol gwirioneddol ysgrifennu at Bennaeth Blwyddyn eu plentyn er mwyn i ni weld sut orau i gynorthwyo.

“Rydym yn deall bod llawer o deuluoedd wedi profi anhawster ariannol yn ystod y pandemig ac rydym yn cydymdeimlo. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i’r ysgol dalu am unrhyw ddiffyg yn y gyllideb ar gyfer prydau ysgol a allai olygu llai o lyfrau ac adnoddau i’r holl ddisgyblion oherwydd dyledion gan leiafrif.”

Cyngor Gwynedd yn ymddiheuro

Heddiw mae Cyngor Gwynedd yn “ymddiheuro am y pryder a phoen meddwl sydd wedi ei achosi yn sgil cynnwys a geiriad llythyr diweddar gan Ysgol Dyffryn Nantlle at rieni ynglŷn â thaliadau cinio ysgol…

“Wedi ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd yn achos y llythyr diweddar, mae’n ymddangos fod cyngor technegol a roddwyd gan yr Adran Addysg ar sut i ymdrin â dyledion taliadau cinio ysgol wedi creu aneglurder, ac rydym yn ymddiheuro’n ddiffuant am effaith hyn.

“Yn sgil hyn, byddwn yn adolygu ein harweiniad i ysgolion.”