Mae myfyriwr wnaeth gyfaddef ei fod wedi llofruddio ei lys-nain drwy roi cyrtans ei chartref ar dân, wedi cael ei ddedfrydu i o leiaf 15 mlynedd dan glo.
Roedd teulu Mary Gregory, 94, yn credu ei bod wedi dioddef damwain drasig wedi i gwest ddyfarnu dair blynedd yn ôl bod y tân a’i lladdodd yn ei chartref yn Heysham, Lancashire, wedi ei achosi gan sigarét.
Fodd bynnag, ail-agorodd yr heddlu’r achos flwyddyn yn ddiweddarach ar ôl i Tiernan Darnton, 21, gyfaddef – yn ystod sesiwn gwnsela – ei fod wedi lladd Mary Gregory drwy roi ei chyrtens ar dân.
Yn ystod ymchwiliad yr heddlu, daeth i’r amlwg bod Tieran Darnton wedi gwneud datganiad tebyg sawl wythnos ar ôl marwolaeth Mary Gregory, yn ystod gêm o ‘Truth or Dare’ gyda dau ffrind lle datgelodd ei “gyfrinach dywyll”.
Wrth ei ddedfrydu, dywedodd Mrs Ustus Yip wrtho:
“Roedd llofruddiaeth wedi bod ar eich meddwl ers peth amser.
“Roedd gennych feddyliau tywyll.
“Mae chwiliadau rhyngrwyd a wnaethoch cyn ac ar ôl i chi ladd Mrs Gregory yn creu darlun pryderus.
“Daeth eich cyfle i weithredu ar eich meddyliau tywyll pan oedd eich llystad i ffwrdd.
“Yn oriau mân 28 Mai 2018, aethoch i gartref Mrs Gregory a dechrau tân yn fwriadol yn un o’r ystafelloedd gwely.”
“Arbennig o greulon”
Aeth y barnwr ymlaen: “Mae’n anodd dychmygu’r arswyd y mae’n rhaid bod Mrs Gregory wedi’i deimlo pan sylweddolodd fod ei thŷ ar dân ac yn llenwi â mwg.
“Clywodd cymdogion ei sgrechian.
“Daeth y gwasanaeth tân o hyd iddi ger drysau’r ystafell wydr, lle’r oeddech wedi ei rhwystro rhag gallu gadael.
“Cafodd ei dyddiau olaf eu treulio yn yr ysbyty.
“Roedd y ffordd fuodd hi farw yn arbennig o greulon.”
Clywodd y llys fod “deunydd annymunol” hefyd wedi’i ganfod ym meddiant y diffynnydd gan gynnwys cynlluniau i stelcian ac ymosod ar fenywod a “rhestr ladd” yn cynnwys enwau nifer o bobol.