Dylai Cymru ddilyn arweiniad y band roc Coldplay pan ddaw hi at blannu coed yn y tir, meddai un o gynghorwyr Sir Gaerfyrddin.

Daeth sylwadau Carys Jones wrth iddi wyntyllu ei phryderon bod mwy o ffermydd teuluol yn cael eu colli i gwmnïau o’r tu allan sydd am blannu coed i wrthwneud allyriadau carbon.

Fe wnaeth hi eilio cynnig yn y cyngor, a oedd yn honni bod cwmnïau rhyngwladol wedi hawlio mwy na £1.3 miliwn o arian Llywodraeth Cymru drwy ei rhaglen Creu Coetir Glastir er mwyn plannu coed yng Nghymru.

Roedd y mesur, a gafodd ei gynnig gan un o gynghorwyr Plaid Cymru, Alun Lenny, yn galw ar weinidogion i sicrhau mai dim ond ffermwyr gweithredol yng Nghymru fyddai’n gallu hawlio arian Glastir i blannu coed.

Dywedodd hefyd bod angen polisïau cynllunio newydd i ganiatáu i gynghorau reoli prosiectau plannu coed, ac y dylid gwneud caniatâd cynllunio’n orfodol pan maen nhw’n plannu ar gyfran benodol o dir ffermydd.

Roedd y cynnig yn dweud bod y cyngor yn cefnogi’r syniad o blannu coed cyfrifol, ond y dylai gael ei wneud drwy ymgynghori â phobol leol a heb effaith ddinistriol ar swyddi lleol, diwylliant a hyfywedd cymunedau.

Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones bod un cwmni wedi prynu pedair ffarm yn yr ardal a’u bod nhw’n trio defnyddio’r busnes plannu coed yn y farchnad stoc.

“Ai dyma sut ydyn ni’n mynd i golli ein ffermydd, gan greu elw ariannol i rai buddsoddwyr?” meddai.

Dywedodd fod menter newydd Coldplay o blannu un goeden ar gyfer pob tocyn a werthwyd ar gyfer eu taith fyd-eang y flwyddyn nesaf yn enghraifft o’r goeden gywir yn cael ei phlannu yn y lle cywir, gyda chefnogaeth gymunedol.

“Os gall band wneud hynny, dw i’n siŵr y gall cenedl,” meddai.

Amsugno carbon deuocsid

Mae plannu coed yn amsugno carbon deuocsid o’r amgylchedd ac felly’n helpu yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, ond mae pryderon wedi cael eu codi y gellir colli tir cynhyrchiol, a bod cwmnïau’n defnyddio’r dull hwn i wrthwneud eu hallyriadau yn hytrach na gostwng eu hallyriadau.

Ym mis Gorffennaf eleni, dywedodd Llywodraeth Cymru bod angen 180,000 hectar o goetir newydd erbyn 2050.

Dywedodd y Cynghorydd Arwel Davies fod hyn yn cyfateb i 2,750 o ffermydd teuluol yng Nghymru. Wrth gefnogi’r cynnig, dywedodd y dylid gwneud hi’n ofynnol i bobol gael caniatâd cynllunio i blannu coed.

Dywedodd arweinydd Llafur Cyngor Sir Gaerfyrddin, y Cynghorydd Rob James, bod angen cyrraedd targed Llywodraeth Cymru, ac awgrymodd fod y cyngor, sy’n cael ei reoli gan Blaid Cymru ac aelodau Annibynnol, wedi bod yn “eithaf araf” yn plannu coed.

Ychwanegodd ei fod yn awyddus i sicrhau nad oes swyddi lleol yn cael eu colli o ganlyniad i blannu coed.

Defnyddio glaswellt?

Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies fod y math cywir o laswellt mor effeithiol â choed wrth amsugno carbon, ac mai dim ond hanner bwyd Cymru sy’n cael ei gynhyrchu yn y wlad.

“Dyw coed ddim yn mynd i fwydo ein trigolion,” meddai.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas y gallai glaswelltir da ddal mwy o garbon na choed, a pharau i gefnogi cynhyrchu cig, gwlân a llaeth.

Yn ôl y Cynghorydd Darren Price, mae’n rhaid i blannu coed ymwneud â’r “goeden gywir yn y lle iawn am y rheswm cywir”, a’i fod yn teimlo bod rhoi cymhorthdal i gwmnïau o’r tu allan yn “gwbl anfoesol”.

“Cipio tir”

Cyn i’r cynnig – a oedd hefyd yn galw am gwmni annibynnol cyhoeddus i reoli coedwigoedd Cymru – gael ei basio, dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny ei fod yn credu y byddai plannu coed yn anghyfrifol yn cael effaith “ofnadwy” ar gymunedau gwledig.

Mae’r “cipio tir” wedi dechrau, meddai, ac “mae ein cymunedau brodorol dan fygythiad”.

Dywedodd John Thomas, ffermwr sydd wedi ymddeol, wrth BBC Cymru ym mis Awst fod y fferm yr oedd wedi’i gwerthu yn Nyffryn Cothi wedi cael ei hailwerthu i gwmni buddsoddi rhyngwladol yn Llundain.

Roedd yn torri ei galon wrth weld cartref ei blentyndod yn dod yn un o’r nifer sy’n cael eu gwerthu i “gwmnïau enfawr, di-wyneb yn Lloegr” i blannu coed, meddai.

“Rwy’n teimlo’n drist iawn am y peth – rwy’n teimlo’n eithaf dig mewn gwirionedd,” meddai.

Dywedodd y cwmni a brynodd y fferm, Foresight, ei fod yn anelu at sicrhau bod unrhyw newid defnydd tir yn cael ei wneud yn y ffordd fwyaf sensitif bosib, a’i fod bob amser yn ymgynghori gyda chymunedau lleol.

“Testun pryder”

Yr wythnos hon, galwodd y Ceidwadwyr Cymreig am ddiogelu tiroedd amaethyddol rhag plannu coed corfforaethol.

Dywedodd Llefarydd y blaid dros Newid Hinsawdd, Janet Finch-Saunders: “Mae’n destun pryder mawr fod mwy a mwy o ffermydd Cymru dan fygythiad gan fod y tir hwn, a allai gynhyrchu bwyd cynaliadwy, yn cael ei golli, mae’n annhebygol y byddwn yn eu gweld nhw’n dychwelyd fyth”

Mae coedwigoedd yn llawer mwy effeithiol na glaswellt wrth wrthwneud allyriadau carbon, yn ôl methodoleg Llywodraeth Cymru.

Wrth ymateb i gynnig y cyngor, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters: “Mae angen i ni blannu 86 miliwn o goed erbyn diwedd y degawd os ydyn ni am gwrdd ag allyriadau carbon sero net erbyn 2050.

“Mae gwneud hyn mewn ffordd sydd wedi’i reoli’n addas yn cynnig cyfle sylweddol i’r economi wledig gan greu swyddi a sgiliau gwyrdd.

“Rydym yn awyddus i osgoi cael cwmnïau o’r tu allan yn prynu tir, ac rydyn ni am weithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr Cymru i gyflawni hyn.”

Dywedodd yr Aelod o’r Senedd dros Lanelli bod prosiect yn y Fenni yn dangos sut y gellir cyflawni hyn ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd ar dir amaethyddol, a hynny dan reolaeth a pherchnogaeth leol.

“Rydyn ni wedi sefydlu grŵp arbenigol i ystyried sut y gallwn ddefnyddio’r model hwn ledled Cymru.”

Gallwch ddarllen mwy am bryderon tebyg yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon:

Pryderon am gwmnïau mawr yn plannu coedwigoedd ar dir ffermio

Sian Williams

“Mae datblygu economi gwyrdd sydd yn cynnal swyddi lleol yn sicr yn help i gymunedau Cymru”

£1.3 miliwn o gyllid plannu coed yn mynd i gwmnïau y tu allan i Gymru

Mae Plaid Cymru yn honni bod llywodraeth wedi neilltuo naw cytundeb gwerth £1,306,561 i ymgeiswyr sydd â chyfeiriadau y tu allan i Gymru.