“Mae yna gwestiwn moesegol yn codi o ran defnyddio tir Cymru ar gyfer plannu coedwigoedd er mwyn galluogi i gwmnïau mawrion leddfu ôl troed carbon,” meddai John Mercer, Cyfarwyddwr Undeb yr Amaethwyr [NFU].

Ac nid yn unig cwmnïau corfforaethol mawr yn prynu tir amaeth i’w droi yn goedwig oedd yn achosi pryder i John Mercer ddechrau’r wythnos, pan siaradodd â chylchgrawn Golwg.