Fel haid o wenyn fe orymdeithiodd menywod WASPI o Swyddfeydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yng nghanol y brifddinas at risiau’r Senedd, gyda’r un neges yn eu gwynt – pensiynau teg.

Eu nod yw ymgyrchu yn erbyn y ffordd cafodd yr oedran mae merched yn derbyn eu pensiwn gwladol ei godi o 60 i 65 oed.

I nifer mae’n stori hir ac emosiynol, ond mae eu hymgyrch wedi magu stêm yn y blynyddoedd diwethaf ac maen nhw’n benderfynol o godi eu llais.