Er iddi wahardd ysmygu dan do yn 2007, dyw’r llywodraeth heb redeg allan o bwff wrth gyflwyno mesurau i leihau ar y nifer o ysmygwyr.

Yn raddol gwelwyd y fflam yn diffodd ar yr hawl i danio sigarét mewn tafarndai, meysydd chwarae, ac ar diroedd ysgolion ac ysbytai’r wlad.

Ond mae Llywodraeth Cymru nawr am fynd gam ymhellach gan anelu at wneud Cymru’n genedl ddi-fwg erbyn 2030.