Mae’r bwthyn 400-mlynedd oed ger y bont adnabyddus yn Llanrwst wedi’i orchuddio’n barhaus gan blanhigyn o’r enw’r Dringwr Fflamgoch.

Yn yr hydref mae’r bwthyn wedi’i lapio mewn blanced o ddail tanbaid, fflamgoch.

Ac mae pobl yn tyrru draw i Lanrwst i gael llun ‘cerdyn post’ ohono.