Dw i’n gwybod bod canran fawr o boblogaeth Cymru wedi penderfynu mai’r darllenwr newyddion Huw Edwards ddylai fod yn Arlywydd cyntaf y Gymru Rydd.

Dw i’n gwybod bod llawer ohonon ni’n mynd i ecstasi o ddiolchgarwch pan fydd llun ohono’n ymddangos yn browd gyda baner Cymru.

Dw i’n gwybod na ddylen ni feirniadu unrhyw Gymro sydd wedi llwyddo cystal yn Llundain.

Ond, diawch, roedd ei drydariad wythnos diwethaf ynghylch y caethwasydd a’r arteithiwr Thomas Picton bach yn dwp yn fy ngolwg fach i.