Mae teulu bachgen deg oed a gafodd ei ladd gan gi yng Nghaerffili wedi dweud eu bod nhw’n “torri eu calonnau” wrth roi teyrnged i’w “bachgen hyfryd”.

Bu farw Jack Lis ar ôl i gi ymosod arno yn nhŷ ei ffrind ym Mhentwyn, Penyrheol, ddydd Llun (8 Tachwedd).

Dywedodd Heddlu Gwent heddiw (12 Tachwedd) bod dynes 28 oed o Gaerffili wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth amodol ar ôl cael ei harestio ar amheuaeth o fod yng ngofal ci a oedd allan o reolaeth ac yn beryglus, ag a arweiniodd at farwolaeth Jack Lis.

Mae dau ddyn arall – un dyn 34 oed o ardal Aberpennar a dyn 19 oed o ardal Caerffili – wedi cael eu rhyddhau ar ôl siarad o’u gwirfodd gyda’r heddlu ynghylch cyhuddiad am gi oedd allan o reolaeth ac yn beryglus.

Clywodd cwest heddiw fod Jack Lis wedi marw o “anafiadau difrifol i’w ben a’i wddf”, a dywedodd y crwner yn Llys y Crwner Casnewydd fod y ci wedi ymosod arno wrth iddo fynd mewn i dŷ’r ffrind.

“Mab perffaith”

Mewn datganiad, dywedodd teulu Jack Lis:

“Mae ein calonnau yn torri. Ni fydd ein bywydau fyth yr un fath heb Jack.

“Nid yw hyn yn rhywbeth y dylai unrhyw riant orfod ei ysgrifennu.

“Mae gennym ni gymaint o eiriau rydyn ni eisiau eu dweud am ein bachgen hyfryd, ond dydyn nhw ddim yn ymddangos yn ddigon.

“Rydyn ni’n ei garu’n fwy na gall geiriau eu disgrifio. Fe’n gwnaeth ni y rhieni a’r teulu mwyaf balch ar y blaned. Roedd yn un o’r bechgyn mwyaf annwyl.

“Byddwn ni’n methu ei ffyrdd unigryw a’r straeon y byddai’n treulio amser hir yn eu hadrodd am byth.

“Mae e yn ein calonnau am byth. Cwsg yn dawel Jack, ein mab perffaith.”

Ymchwiliad yn parhau

Dywedodd y Prif Uwch-Arolygydd Mark Hobrough bod y gwaith o adnabod brid y ci a oedd yn rhan o’r ymosodiad yn parhau.

“Unwaith bydd y gwaith hwn wedi gorffen, byddwn yn gallu canfod a yw’r brid ar y rhestr o gŵn y mae’n anghyfreithlon i fod yn berchen arnyn nhw yn y wlad hon a bydd swyddogion yn ymchwilio’n drwyadl i unrhyw droseddau eraill.

“Rwyf yn deall bod yr ymchwiliad hwn o ddiddordeb mawr i bobl yn ein cymunedau.

“Mae’n hollbwysig bod pobl yn ystyried sut gallai eu sylwadau neu negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol effeithio ar ein hymchwiliad ac ar deulu Jack, sy’n galaru.

“Unwaith eto, hoffwn estyn fy nghydymdeimlad i deulu Jack, ei ffrindiau, ffrindiau ysgol a phawb yn y gymuned sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad hwn.”