Mae data newydd yn dangos yn union faint wellodd ansawdd aer rhai o rannau mwyaf llygredig Caerdydd yn sgil y cyfnodau clo.

Fe wnaeth lefelau traffig ostwng 28% ar hyd a lled y brifddinas y llynedd, o gymharu â 2019, a gostyngodd 38% ynghanol y ddinas.

Gan fod llai o bobol yn gyrru yn sgil y cyfnodau clo, gan eu bod nhw’n gweithio o adra a’r siopau ar gau, cafodd llai o lawer o lygredd ei ryddhau i’r aer.

Er bod lefelau traffig yn cynyddu eto nawr, mae gan Gyngor Caerdydd gynlluniau mawr i wneud yn siŵr bod lefelau llygredd aer yn dal i ostwng, ac maen nhw’n buddsoddi mewn 50 monitor asesu ansawdd aer newydd.

Mae gwyddonwyr wedi dangos bod disgwyliadau oes pobol sy’n anadlu llygredd yn yr aer yn fyrrach, a bod ganddyn nhw fwy o siawns marw o glefyd y galon, strôc, afiechydon anadlol, neu ganser yr ysgyfaint.

Mae’r rhan fwyaf o lygredd aer Caerdydd yn deillio o draffig, yn arbennig pobol yn gyrru ceir disel.

Pedair ardal lle mae llygredd ar ei waethaf

Cafodd data manwl yn esbonio lefelau llygredd aer Caerdydd ei ddatgelu’r wythnos hon yn adroddiad cynnydd blynyddol y cyngor ar ansawdd aer.

Cafodd cynlluniau uchelgeisiol i gadw’r lefelau’n isel eu datgelu mewn pwyllgor craffu amgylcheddol ddoe (11 Tachwedd), cynlluniau’n cynnwys bysys trydan newydd, mannau gwefru mewn pyst lampau, a strategaeth feicio newydd.

Mae gan Gaerdydd bedair ‘ardal rheoli ansawdd aer’ lle mae lefelau arbennig o uchel o lygredd aer – Heol Eglwys Fair a Heol Westgate ynghanol y ddinas, Pont Elái, Cwrt Stephenson ar Heol Casnewydd, ac ar hyd Heol Caerdydd yn Llandaf.

Wrth gymharu’r ardaloedd penodol hyn rhwng 2019 a 2020, fe wnaeth nitrogen deuocsid ostwng 31% ynghanol y ddinas, 20% ar Heol Casnewydd, 21% ar Bont Elai, ac 20% yn Llandaf.

Wrth edrych ar wardiau, a chymharu o fis Mawrth i fis Rhagfyr llynedd gyda’r flwyddyn flaenorol, fe wnaeth lefelau nitrogen deuocsid ostwng 27% yn Llandaf, 22% yn Y Mynydd Bychan, ac 19% yn Elái a Thre-biwt.

Mae’r gostyngiad hwn mewn llygredd aer yn debygol o fod yn gysylltiedig â llai o bobol yn gyrru i’w gwaith ac i siopa, a mwy o bobol yn cerdded a beicio.

Fe wnaeth ardaloedd cyfoethocach weld gostyngiadau mwy, mae’n debyg gan fod mwy o bobol yn gallu gweithio o adref yno nag mewn ardaloedd mwy difreintiedig.

Ailagor ffyrdd

Er bod rhai pobol yn parhau i weithio o adre, mae lefelau traffig wedi dechrau codi eto ers i gyfyngiadau’r cyfnodau clo gael eu llacio yng Nghymru. Mae’r cyngor nawr yn wynebu sawl mater wrth geisio atal lefelau llygredd aer rhag codi hefyd.

Un mater yw ailagor Stryd y Castell i draffig preifat. Roedd y briffordd ar gau dros yr haf y llynedd, ac agorodd i drafnidiaeth gyhoeddus a thacsis fis Tachwedd diwethaf.

Mae arbenigwyr llygredd yn y cyngor yn monitro effaith ei hailagor ar ansawdd aer Stryd y Castell ac ardaloedd preswyl gerllaw fel Grangetown a Glanrafon – a gafodd eu heffeithio’n negyddol yn sgil cau Stryd y Castell gan fod gyrwyr yn defnyddio ffyrdd gwahanol.

Bydd y data’n cael ei adolygu tri mis ar ôl i’r ffordd gael ei hailagor.

Bysus trydan

Mae bysus yn fater arall. Fe wnaeth Bysiau Caerdydd dderbyn y cyntaf o 36 bws drydan yn ddiweddar, ac mae disgwyl iddyn nhw ddechrau cael eu defnyddio ar strydoedd y ddinas yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Bydd y bysus yn cael eu pweru dros nos yn y depo yn Heol Sloper, ac mae profion yn awgrymu bod eu pweru dros nos yn ddigon i’w cadw nhw fynd drwy gydol y dydd.

Ceir trydan

Trydydd mater yw pweru ceir trydan. Mae disgwyl y bydd Caerdydd angen 10,000 pwynt pweru erbyn 2025, a 40,000 erbyn 2030.

Ond y cwestiwn ar y funud yw lle y bydd y rhain yn mynd, yn enwedig ar strydoedd gyda thai teras a dim lle parcio tu allan, fel Adamsdown.

Mae’r cyngor yn cynllunio rhaglen beilot ar gyfer gosod pwyntiau pwerau mewn lampau stryd, gyda llefydd parcio arbennig ar gyfer ceir trydan gerllaw.

Ond mae’r dechnoleg yn datblygu’n sydyn – un esiampl allweddol yw pwynt pweru symudol maint cês dillad o’r enw ZipCharge Go.

Beicio

Un “mater mawr” arall yw sicrhau diogelwch beicwyr. Fe wnaeth Nextbike gyhoeddi’n ddiweddar eu bod nhw’n cael gwared ar eu holl feiciau yn sgil lefelau syfrdanol o fandaliaeth.

Fodd bynnag, fe wnaeth adroddiad cynnydd blynyddol y cyngor ar ansawdd aer ganmol y rhaglen a dweud ei bod hi wedi’i “derbyn yn gadarnhaol gan aelodau o’r cyhoedd”, a’r un “fwyaf llwyddiannus yn y Deyrnas Unedig”.

Mae cynllun peilot a gafodd ei gyhoeddi dros flwyddyn yn ôl – i gynnig llefydd diogel i gadw beics ar strydoedd – wedi cael ei stopio.

Gallai mesurau newydd gael eu cyhoeddi ym mis Chwefror fel rhan o strategaeth bum mlynedd newydd y cyngor ar gyfer beicio.

Ond ar y funud mae hi’n anodd mesur effaith y materion hyn, ac effaith unrhyw weithredu.

Monitro’r aer

Llynedd, doedd gan y cyngor ond pedwar monitor asesu ansawdd aer awtomatig, ond gallai hyn gael ei ymestyn gyda rhwydwaith o 50 monitor awtomatig newydd, gwerth £65,000, dros Gaerdydd.

Mae gan y cyngor 92 monitor sydd ddim yn rhai awtomatig, ond mae’n rhaid mynd yno i edrych ar y canlyniadau unwaith y mis.

Byddai rhwydwaith newydd o fonitorau awtomatig dros y ddinas yn caniatáu i ddata gael ei gasglu’n barhaus, gan gael ei uwchlwytho i wefan neu ap cyhoeddus, efallai.

Gallai hyn helpu gyda gwaith ymchwil, datblygu polisi, dadansoddi effeithiau ar iechyd, a gwella dealltwriaeth y cyhoedd o ansawdd aer.

Dywedodd Andrew Gregory, cyfarwyddwr cynllunio, trafnidiaeth ac amgylchedd y cyngor, wrth y pwyllgor craffu amgylcheddol bod “ansawdd aer yn dod yn bwysicach bob blwyddyn”.

“Mae sefydlu system fonitro amser real dros y ddinas yn gam anferth.”

Dydi hi ddim yn eglur eto lle byddai’r monitorau’n cael eu gosod, ond maen nhw’n debygol o gael eu gosod yn y llefydd lle mae’r risg mwyaf o lygredd aer peryglus.